Gwirio cymhwysedd meddygon
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud y bydd profion newydd ar sgiliau meddygon fydd yn dechrau ym mis Rhagfyr yn gwella gofal iechyd yng Nghymru.
Roedd Lesley Griffiths yn siarad wedi i lywodraeth y DU gyhoeddi profion cymhwysedd blynyddol i feddygon.
Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ob pum mlynedd os ydyn nhw'n gymwys i barhau i weithio.
Cafodd y cyhoeddiad ei ddisgrifio gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) fel "y newid mwyaf mewn rheolaeth meddygol ers 150 mlynedd".
Os na fydd meddygon yn bodloni safonau'r GMC o dan y sustem newydd, fe fyddan nhw'n cael eu hatal rhag gweithio.
Dywedodd Mrs Griffiths bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, y GMC a'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) i sicrhau y bydd ailddilysu meddygol yn "cefnogi meddygon yng Nghymru yn eu datblygiad proffesiynol".
Ychwanegodd y bydda'i newidiadau yn "cyfrannu i wella safonau a mwy o ddiogelwch i'r claf".
Roedd angen y newid yn ôl Llywodraeth Cymru gan fod dros 90,000 o dechnolegau yn cael eu defnyddio ar draws y GIG.
"Bydd y sustem newydd yn cynorthwyo meddygon i gadw'r safonau sy'n ddisgwyliedig gan sicrhau eu bod yn cadw gyda'r oes o safbwynt technegau, technolegau ac ymchwil diweddaraf," meddai llefarydd.
'Cam positif iawn'
Cafodd y cyhoeddiad ei ddisgrifio gan yr Athro Derek Gallen, Deon Ôl-radd Cymru, fel "cam positif iawn".
Dywedodd wrth BBC Cymru y byddai'r GMC yn cadw cofrestr o bob meddyg fel y gall cleifion gael hyder yn eu meddygon teulu.
"Fe fydd hyn yn datblygu'r meddygon eu hunain a'u meddygfeydd," meddai.
Gwrthododd honiadau y byddai'r cynllun gyfystyr â rhestr berfformiad i feddygon.
"Unwaith y mae meddyg wedi cael ei drwydded, sut fedrwch chi gael rhestr berfformiad?" meddai.
Dywedodd Dr Eamonn Jessup, meddyg teulu ym Mhrestatyn, bod sustem arfarnu Cymru eisoes yn cael ei hystyried yn un o'r radd flaenaf, ac y byddai ychwanegu profion ychwanegol yn "mynd i fod o fudd i bawb".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2012