Pryderon am fygythiad mincod Môn
- Cyhoeddwyd
Gallai lledaeniad mincod bod yn fygythiad mawr i'r gwaith cadwraeth a wnaed dros y degawd diwethaf i ddiogelu poblogaeth llygod y dŵr yn afonydd Ynys Môn.
Cyflwynwyd y mincod i Brydain o America yn 1929 er mwyn creu cotiau ffwr.
Llwyddodd rhai i ddianc a chredir bod yna tua 37,000 o fincod gwyllt ym Mhrydain heddiw.
Mae Menter Môn wedi bod yn cadw llygad ar fodolaeth mincod ar yr ynys ers 2001, pan gychwynnwyd prosiect i ddiogelu dyfodol llygod y dŵr yn yr afonydd.
200 o rafftiau
Ar ôl i sawl minc gwrywaidd gael eu dal ers 2005, cafodd 200 o rafftiau bychain eu gosod yn yr afonydd dros y gaeaf a'r gwanwyn. Roedd yn bosib nodi bodolaeth y mamaliaid wrth iddynt adael olion traed ar baletau arbennig o glai.
Aeth swyddogion cadwraeth Menter Môn wedyn ati i osod trapiau ger olion y mincod.
Yn gynharach eleni, cafwyd o hyd i un fenywaidd ger Llyn Alaw. Gallai hyn felly awgrymu eu bod wedi dechrau bridio ar yr ynys.
"Mae Ynys Môn yn ardal arbennig ar gyfer llygod y dŵr, ac mae mincod yn ysglyfaethwyr da iawn," eglurodd Gareth Pritchard, un o'r swyddogion cadwraeth sydd wedi bod yn chwilio am fodolaeth y mincod.
"Mae minc fenywaidd yn wych am ddeifio o dan y dŵr i gipio bwyd a phan maent yn bridio, maent yn hela ar hyd un afon ac yn gallu degymu'r boblogaeth o lygod y dŵr yn yr ardal."
Cotiau ffwr
Ychwanegodd Gareth Pritchard nad yw'r minc yn rhan naturiol o ecosystem Prydain gan eu bod yn dod yn wreiddiol o Unol Daleithiau America.
"Roeddent yn arfer ffermio'r mincod er mwyn defnyddio eu ffwr i greu cotiau merched," meddai.
"Yna, cafodd rhai eu rhyddhau i'r gwyllt a llwyddodd nifer i ddianc.
"Mae 'na drafferth gyda nhw yn rhai ardaloedd o ogledd Cymru, fel y RSPB yng Nghonwy. Maen nhw'n nofwyr cryf, felly nid yw'r Fenai yn rhwystr."
Os yw niferoedd y mincod yn cael y cyfle i gynyddu, mae yna bryderon y gallent nofio draw i Ynysoedd y Moelrhoniaid ac Ynys Seiriol ac felly bygwth y nythod o adar y môr.
Derbyniodd Menter Môn arian ychwanegol gan Amgylchedd Cymru, sef partneriaeth o fudiadau yn y sector gwirfoddol wedi'i gyllido gan Lywodraeth Cymru, i osod y 200 o rafftiau.
Erbyn hyn, dim ond dwy set o rafftiau ger y Fenai sydd ar ôl i helpu cadw llygad ar niferoedd y mincod.
Mae Mentor Mon yn gobeithio derbyn rhagor o grantiau yn y dyfodol i barhau â'r gwaith.
Yn y cyfamser, maent am gyd-weithio gyda Grŵp Mamaliaid y Glannau, Gogledd Orllewin Cymru er mwyn cyd-drefnu'r gwaith i waredu'r ardal o fygythiad y mincod.