Hawl i gael pwerau benthyg i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi newidiadau i sut mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod angen caniatáu i weinidogion fenthyg arian er mwyn talu am brosiectau adeiladu i hybu'r economi.
Mewn cynhadledd newyddion ym Mharc Cathays, Caerdydd, cyhoeddwyd y byddai Llywodraeth Cymru'n cael pwerau benthyca cyfalaf cyfyngedig.
Mae hyn ar yr amod bod yna ffrwd refeniw annibynnol fel pwerau trethu ac mae Comisiwn Silk yn ystyried hynny ar hyn o bryd.
Bydd cyhoeddiad y mis nesaf.
Eisoes mae pwerau benthyg wedi eu datganoli i Lywodraeth Yr Alban gydag uchafswm o £2.7 biliwn y flwyddyn ar gael.
'Cam pwysig'
Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, yn y gynhadledd: "Mae'r cyhoeddiad heddiw yn golygu bod yna gytundeb mewn egwyddor i roi pwerau benthyca cyfalaf datganoledig i Lywodraeth Cymru.
"Mae hwn yn gam pwysig ymlaen ar lwybr datganoli i bobl Cymru, a bydd yn dod â manteision sylweddol iddynt.
"Rwy'n hynod falch bod y ddwy lywodraeth wedi cydweithio'n agos i sicrhau'r canlyniad da hwn i Gymru."
Yn ôl Gweinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt: "Mae'r datganiad yr ydyn ni'n ei gyhoeddi yn cynnwys ymrwymiad newydd y ddwy lywodraeth i adolygu trywydd cyllid cymharol Cymru yn adolygiadau gwariant y dyfodol.
"Rwy'n croesawu'r penderfyniad mewn egwyddor i ddatganoli pwerau benthyca cyfalaf, a dylai hynny roi arf ychwanegol i Lywodraeth Cymru er mwyn sbarduno twf economaidd."
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones: "Rwy'n gobeithio y bydd y cyhoeddiad yn rhoi hyder i bobl Cymru fod y ddwy lywodraeth wedi gwneud cynnydd o ran trefniadau ariannu Cymru.
"Yn ogystal â'r pwerau benthyca cyfalaf mewn egwyddor, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod y pryder yng Nghymru ynghylch y cydgyfeirio hirdymor, ac mae wedi ymrwymo i ystyried yr opsiynau er mwyn mynd i'r afael â hyn unwaith y bydd yn ailgychwyn.
"Mae ymrwymiadau heddiw yn sylfaen gref ar gyfer cydweithio â Llywodraeth Cymru wedi i Gomisiwn Silk gyflwyno ei adroddiad i mi."
'Tangyllido'
Yn gynharach eleni dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ei bod hi'n hanfodol fod Cymru yn cael cydraddoldeb pŵer â'r Alban.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad, Ieuan Wyn Jones, ddydd Mercher: "Nid yw'r datganiad hyd yn oed yn dweud faint y bydd Cymru yn gallu ei fenthyca ar ryw ddyddiad heb ei bennu yn y dyfodol.
"Mae olion y Trysorlys yn glir ar y ddogfen hon ac ni allaf ddeall pam y byddai unrhyw brif weinidog yng Nghymru yn cytuno iddi".
Cyn y cyhoeddiad ddydd Mercher dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones: "Mae pawb yn cytuno fod Cymru wedi ei thangyllido yn sylweddol bob blwyddyn o ganlyniad i Fformiwla Barnett sydd wedi colli pob hygrededd.
"Yn y tymor byr, buasai 'llawr' Barnett ar y lefel iawn yn cyflwyno setliad cyllido tecach i Gymru a buasai pwerau benthyca yn gadael i ni fuddsoddi er mwyn hybu'r economi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2011