Pwerdy: Ewrop i ymchwilio

  • Cyhoeddwyd
Pwerdy PenfroFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o'r pwerdy arfaethedig ym Mhenfro

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi dechrau ymchwiliad i benderfyniad Asiantaeth yr Amgylchedd i ganiatáu pwerdy ar lannau'r Cleddau yn Sir Benfro.

Daw penderfyniad y Comisiwn ar ôl i Gyfeillion y Ddaear anfon cwyn ym mis Gorffennaf 2010 yn honni fod pwerdy RWE npower yn torri rheolau amgylcheddol.

Nawr mae gan adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan ddau fis i ymateb i'r gwyn - sef bod tair o ddeddfwriaethau Ewropeaidd yn cael eu torri.

Mae gwrthwynebwyr y pwerdy yn pryderu a wnaed arolwg amgylcheddol cyn adeiladu'r orsaf bŵer, a hefyd yn bryderus am effaith tywallt dŵr cynnes i ardal gadwraeth forol arbennig yn aber yr afon Cleddau.

Mae'r dŵr wyth gradd Celsius, tymheredd sy'n gynhesach na dŵr naturiol, yn cael ei roi yn ôl i'r aber ar ôl oeri tyrbinau stem a nwy'r pwerdy.

Dywedodd llefarydd ar ran adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth Prydain mai rhybudd o drosedd ydy hwn - nid achos cyfreithiol, a'u bod yn ystyried eu hymateb llawn i'r cyhoeddiad.

Fe fydd yr orsaf yn cyflenwi ynni i hyd at 3 miliwn o gartrefi.

Cafodd caniatâd cynllunio ei roi gan Lywodraeth y DU yn 2009.

Daeth yr ymchwil i'r casgliad y byddai peth newidiadau i ardaloedd bach o amgylch y pwerdy, ond fe fyddai'r ardal gyfan yn cael ei gwarchod.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol