Llyfrgelloedd Ynys Môn dan fygythiad?
- Cyhoeddwyd
Gallai rhai llyfrgelloedd ar ynys Môn gael eu cau yn y tymor hir oherwydd diffyg cyllid, yn ôl adroddiad newydd.
Bydd yn rhaid i wasanaeth llyfrgelloedd y cyngor sir arbed 7% o'i gyllideb o £1miliwn yn ystod pob un o'r tair blynedd nesaf yn ôl yr adroddiad fydd yn cael ei drafod gan Bwyllgor Craffu Addysg yr awdurdod ddydd Gwener.
Dywed y cyngor y dylid arbed arian heb gau llyfrgelloedd ond mae'r adroddiad yn awgrymu efallai y bydd rhaid cau rhai ohonynt yn y tymor hir.
Dywed yr adroddiad y dylai "arbedion gael eu nodi drwy ailddiffinio a thrawsnewid gwasanaethau, nid trwy hufennu cyllidebau na chau gwasanaethau".
Ond yn ôl yr adroddiad bydd yr ymgais i fynd i'r afael â'r gofynion hyn yn golygu lleihau gwasanaethau'n sylweddol gan gynnwys cau nifer o lyfrgelloedd lleol.
Mae'r adroddiad yn annog y pwyllgor i argymell y dylai'r cyngor llawn drafod dyfodol gwasanaethau llyfrgell y sir.
Dywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: "Fe fyddai'n bechod pe bai'r gwasanaeth gwerthfawr hwn yn lleihau gan gau llyfrgelloedd."
Ymwelodd 14.8 miliwn o bobl lyfrgelloedd yng Nghymru yn 2010-11 - codiad o 1% o'i gymharu â'r flwyddyn cynt yn ôl ystadegau diweddaraf y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012