Comet i fynd i ddwylo'r gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd
Mae tua 6,500 o swyddi ledled y DU yn y fantol ar ôl i'r archfarchnad nwyddau trydanol Comet gadarnahu y bydd yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yr wythnos nesaf.
Cafodd Comet ei brynu am £2 gan y cwmni buddsoddi OpCapita yn gynharach eleni, ond credir bod Comet wedi gwneud colled o tua £35m y llynedd.
Mae gan y cwmni 14 o siopau yng Nghymru - ym Merthyr Tudful, Cwmbrân, Llanelli, Abertawe, Llantrisant, Pen-y-bont ar Ogwr, dwy yng Nghaerdydd, Casnewydd, Y Rhyl, Wrecsam, Hwlffordd, Bangor a Llandudno.
Grwp Comet yw yn un o'r mwyaf ymhlith siopau'r stryd fawr.
Mae'r cwmni yn dweud ei fod yn medru ateb ymholiadau cwsmeriaid ar 0844 8009595.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol