Pryderon am goed ynn yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae timau sy'n ymchwilio i haint difrifol 'Chalara fraxinea' mewn coed ynn yng Nghymru yn dweud fod nifer o goed dan amheuaeth.
Wrth gadarnhau'r darganfyddiadau ddydd Mawrth, dywedodd arbenigwyr y gallai'r effeithiau fod yn ganlyniad i nifer o heintiau gwahanol.
Ond yn ôl David Edwards, pennaeth Cymru gydag Ymgynghorwyr Coedwigoedd UPM Tillhill, bydd yn rhaid cynnal rhagor o brofion mewn rhai ardaloedd.
Yn y cyfamser, mae cynlluniau i blannu miloedd o goed ynn yng Nghymru wedi'u hatal yn syth fel rhan o ymdrechion i geisio atal y ffwng Chalara fraxinea rhag lledaenu.
Mae'r haint eisoes wedi taro nifer o goed mewn meithrinfeydd ar draws y DU.
Hyd yn hyn mae 100,000 o goed yn Lloegr a'r Alban wedi eu dinistrio.
Yng Nghymru, dywedodd y Comisiwn Coedwigaeth fod 100 o staff wedi bod yn arolygu safleoedd sy'n mesur 10 cilometr sgwâr dros y dyddiau diwetha'.
Bydd swyddogion y Comisiwn Coedwigaeth yn anfon samplau i gael eu profi gan arbenigwyr iechyd planhigion os ydyn nhw'n amau bod unrhyw goed yn dioddef o'r haint.
Noddfa bywyd gwyllt
Daeth yr arolwg i ben fore dydd Mawrth ond dyw hi ddim yn glir pa bryd fydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi.
Mae yna 15,348 hectar o goed ynn yng Nghymru, sef 5% o'r 304,000 hectar o goetir yn y wlad i gyd.
Mae'r onnen yn bwysig am ei phren, fel coed tân, fel noddfa bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ac fel rhan o'r tirlun.
Bydd aelodau o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn mynychu cynhadledd iechyd coed ddydd Mercher i drafod y broblem yn y DU.
Cafodd yr haint, sy'n cael ei achosi gan y ffwng Chalara fraxinea, ei gofnodi am y tro cyntaf ym Mhrydain yn gynharach eleni mewn casgliad o blanhigion ynn mewn meithrinfa goed yn Sir Buckingham.
Ers hynny, mae wedi'i ganfod mewn 52 safle yn Lloegr a'r Alban.
Daeth llawer o'r planhigion sydd wedi'u taro gan gyflenwyr o'r Iseldiroedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2012