Mesur mabwysiadu 'ddim yn mynd yn ddigon pell'
- Cyhoeddwyd
Dydi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol ddim yn mynd yn ddigon pell, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae adroddiad Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad i'w ymchwiliad i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru yn dweud y dylid cryfhau'r argymhellion yn y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) sydd ar fin cael ei gyhoeddi.
Dywed yr adroddiad y dylai Gwasanaeth Cenedlaethol newydd gael cyfrifoldeb am ystod o elfennau o fabwysiadu, ac y dylid cynnig gwell cefnogaeth i deuluoedd sy'n mabwysiadu.
Ysgwyddo cyfrifoldebau
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Christine Chapman, eu bod yn "canmol y syniad y tu ôl i gynlluniau'r Llywodraeth" i sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, ond maen nhw'n "teimlo nad yw'r argymhellion presennol yn mynd yn ddigon pell".
"Rydym yn credu y dylai Gwasanaeth Cenedlaethol ysgwyddo llawer o gyfrifoldebau mabwysiadu, gan gynnwys recriwtio a pharatoi darpar fabwysiadwyr a chyflogi staff eu hunain yn genedlaethol ac yn rhanbarthol er mwyn sicrhau safon gyson ac uchel o wasanaeth.
"Mae rhieni sydd wedi mabwysiadu wedi dweud wrth y pwyllgor am y profiad positif o fabwysiadu plant sydd wedi newid eu bywydau, a bod hynny yn bwysicach na'r heriau niferus oedd yn eu hwynebu ar hyd y daith.
"Er ein bod yn derbyn bod mabwysiadu plentyn bregus yn gallu bod yn broses anodd, mae'r rhieni a siaradodd gyda ni wedi son am y profiadau anhygoel o bositif a gawsant, a'u bod yn gobeithio y byddai eraill yn gallu profi rhywbeth tebyg."
Anghysonderau
Mae'r pwyllgor wedi canfod anghysonderau yn null gweithredu gwasanaethau mabwysiadu mewn rhannau gwahanol o Gymru.Mae'r rhain yn cynnwys y modd y mae mabwysiadwyr yn cael eu recriwtio, a hefyd yn y gefnogaeth sydd ar gael i rieni ar ôl iddynt fabwysiadu.
Dywedodd y pwyllgor y dylai ysgolion a gwasanaethau iechyd meddwl gael rôl fwy blaenllaw wrth gefnogi rhai plant sydd wedi cael eu mabwysiadu.
Ychwanegodd Ms Chapman: "Mae angen gwella'r modd y mae gwasanaethau mabwysiadu yn cael eu darparu yng Nghymru.
"Os na fydd yr argymhellion presennol yn cael eu newid, byddwn yn methu cyfle sylweddol i wneud gwelliannau ym mywydau teuluoedd sy'n mabwysiadu a rhai o blant mwyaf bregus Cymru."
Argymhellion
Yn yr adroddiad, mae'r pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion, gan gynnwys :
Dylai cryfhau rôl y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol o'r hyn sy'n cael ei osod yn y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru). Ni ddylai'r gwasanaeth gael "ei berchnogi" gan awdurdodau lleol, ond fe ddylai gael ei arwain gan berson annibynnol fydd yn atebol i fwrdd aml-asiantaeth fyddai yn y pendraw yn atebol i'r gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru;
Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu Cofrestr Fabwysiadu Genedlaethol i Gymru, ac fe ddylai pob darpar fabwysiadwr a phob plentyn gael eu gosod ar y gofrestr yn syth er mwy eu paru gyda'i gilydd;
Dylai Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad gyda llywodraeth y DU, edrych ar y posibilrwydd o gadw'r ddarpariaeth o gefnogaeth ôl-fabwysiadu mewn lle tan fod y plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 18 oed.
Bydd adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar fabwysiadu yn cael ei gyhoeddi'n ffurfiol yn y Senedd ym mae Caerdydd ar ddydd Iau, Tachwedd 8 am 12:30pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2012