£6m o hwb i addysg gynnar Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Nod: Hyfforddi 200 o ymarferwyr y flwyddyn
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi £6 miliwn i addysg gynnar Gymraeg.
Mae'r Mudiad Meithrin wedi cael cytundeb am dair blynedd nesaf a bydd yn hyfforddi 200 o ymarferwyr y flwyddyn.
Roedd y cyhoeddiad yng Nghaerdydd cyn i seminar ieithoedd lleiafrifol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig gyfeirio at arfer da'r Gymraeg ym maes addysg gynnar.
Mae llunwyr polisi yn trafod sut i hybu addysg gynnar ieithoedd lleiafrifol.
Cyn y cyhoeddiad dywedodd y gweinidog, Leighton Andrews: "Does dim amheuaeth y dylai cyflwyno plant ifanc i iaith fod yn rhan hanfodol o unrhyw strategaeth sydd wedi'i chynllunio i hybu ieithoedd lleiafrifol.
'Rhwydwaith'
"Dyna pam ein bod wedi rhoi cytundeb tair blynedd newydd i Mudiad Meithrin i gynyddu nifer yr ymarferwyr Cymraeg ar gael i weithio yn y sector.
"Bydd hyn yn sicrhau bod Cymru gyfan yn elwa ar rwydwaith o gefnogaeth a hyfforddiant o safon i wella'r ddarpariaeth addysg Gymraeg a'i hehangu.
"Mae'n bwysig ein bod yn cymryd mantais ar ddigwyddiadau fel rhain i rannu arfer da ac i chwilio am syniadau ac ysbrydoliaeth newydd.
"Mae'r ieithoedd hyn yn unigryw ac yn rhan bwysig o'n treftadaeth ... mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu."