Carwyn Jones: Tawelu ofnau am drethi

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carwyn Jones yn ymateb i bryderon am argymhellion Comisiwn Silk

Mae Prif Weinidog Cymru wedi ceisio tawelu ofnau busnesau na fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio codi trethi pe bai'r grym i wneud hynny yn cael ei ddatganoli.

Ddydd Llun daeth argymhelliad gan Gomisiwn Silk y dylai nifer o drethi, gan gynnwys Treth Teithwyr Awyr, yr Ardoll Agregau ac eraill, ddod o dan reolaeth Bae Caerdydd.

Arweiniodd hyn at bryderon y byddai Gweinidogion yn ceisio codi'r arian a ddaw o'r trethi hynny i dalu am welliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Ond dywed Carwyn Jones mai ei nod fyddai gostwng trethi lle mae hynny'n bosib er mwyn gwneud Cymru yn fwy cystadleuol, ynghyd â benthyg - gan ddefnyddio unrhyw arian a godwyd - ar gyfer buddsoddi pellach.

Mae e hefyd wedi amddiffyn cyfreithlondeb gostwng treth teithwyr awyr ar gyfer teithiau pell o Gymru wrth ateb beirniadaeth y byddai hynny'n rhoi mantais annheg i Faes Awyr Caerdydd dros gystadleuwyr.

Pryder

Daeth rhybudd gan Gymdeithas Cynhyrchwyr Mwynau y gallai unrhyw gynnydd yn yr ardoll o £2 y dunnell ar y diwydiant fod yn newyddion drwg i Gymru.

Dywedodd eu llefarydd David Harding: "Nid oes gennym wrthwynebiad sylfaenol i Lywodraeth Cymru yn casglu'r Ardoll Agregau, ond ein pryder yw gan eu bod yn ceisio cynyddu eu hincwm fe fydd y demtasiwn i godi'r ardoll yn rhy fawr.

"Cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn fe fyddai hynny'n ddrwg i fusnesau Cymru a swyddi Cymru. Byddai cynyddu'r ardoll mewn cyfnod lle mae'r diwydiant ar ei liniau gyfystyr â chicio rhywun pan maen nhw ar lawr."

Benthyca

Ond roedd ateb Carwyn Jones yn bendant. Dywedodd:

"Holl bwrpas datganoli trethi yw i beidio'u codi, ond eu lleihau ar adegau hefyd.

"Yr hyn mae'n ei olygu yw creu ffrwd o arian y gallwn fenthyca yn ei erbyn. Bydd pobl yn deall ein bod am fenthyg i dalu am rhai o'n cynlluniau mawr fel gwella'r M4, ond rhaid i ni sicrhau bod arian yn dod i mewn.

"Nid yw hynny'n golygu codi'r trethi, ond os fyddwn yn medru cael rheolaeth dros y trethi yna mae arian yn dod i mewn. Ond yn sicr nid codi'r trethi yw'r bwriad - nid dyna fyddai bwriad unrhyw lywodraeth gobeithio."

Cysondeb

Roedd Comisiwn Silk hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gael cyfrifoldeb llawn am drethi busnes yng Nghymru, ac er bod cyfarwyddwr sefydliad busnes y CBI yng Nghymru yn croesawu'r argymhellion ar y cyfan, rhybuddiodd hefyd am yr angen i'r llywodraeth fod yn gyson.

Dywedodd Emma Watkins: "Mae'n bwysig cofio bod trethi busnes cyson ar draws y DU yn rhoi sicrwydd i fusnesau, ac ni ddylai trethi busnes wthio busnesau o Gymru.

"Mae twf ariannol gwirioneddol yn dod trwy ganiatáu cadw trethi busnes yn lleol - rhywbeth y mae gan Lywodraeth Cymru eisoes y gallu i wneud."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol