Mewn lluniau: Anhrefn llifogydd
- Cyhoeddwyd

Daeth glaw trwm a gwyntoedd cryfion ag anhrefn i deithwyr ar draws Cymru, gyda'r gogledd orllewin yn ddiodde' waethaf. Caewyd rhan o'r A55 ger Bangor am 12 awr.

Cafodd y llun yma ei gyhoeddi ar wefan Twitter.

Aeth y fan yma yn sownd ym Mhenygroes, Gwynedd.

Roedd Stryd Fawr Llanberis o dan ddŵr brynhawn Iau.

A doedd y dŵr ddim wedi clirio erbyn y nos yn Llanberis.

Roedd y llifogydd wedi mynd i'r tai ym mhentref Rhosgadfan, Gwynedd.

Dywedodd Alex Rasmussen, sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, ei bod wedi gosod bagiau tywod y tu allan i'w thŷ ym Mynydd Llandegai, Gwynedd.

Tynnwyd y llun yma gan Stephen Andrews 50 llath o'i gartref ym Mrynrefail, Gwynedd.