Tlws cystadleuaeth englyn er cof am Dic Jones
- Cyhoeddwyd
Mae tri mudiad yn ne Ceredigion wedi penderfynu rhoi tlws yn wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol er cof am y cyn Archdderwydd Dic Jones.
Cafodd y tlws ei greu gan y crefftwr Glan Rees o Drefdraeth wnaeth gadair Eisteddfod yr Urdd Ceredigion yn 2010.
Y tri mudiad wnaeth benderfynu fynd ati i gynnig y wobr yw Côr Meibion Blaenporth, Côr Pensiynwyr Aberteifi a'r Cylch, a Chymdeithas Ceredigion.
Cynigir y tlws yng nghystadleuaeth yr englyn yn flynyddol yn y Brifwyl ac mae lle o dan lawr y storws i roi copi o'r englyn yn llawysgrifen y bardd buddugol.
'Beirdd ifainc'
Bu farw Dic Jones yn 75 oed ym mis Awst 2009.
Pan fu farw Mr Jones dywedodd y Prifardd Idris Reynolds mai fe luniodd ddwy o awdlau mwyaf yr iaith Gymraeg a bod ei gyfraniad wedi ymestyn dros hanner can mlynedd.
Mae'r tlws yn cynnwys adfail o storws er mwyn dangos newid cyfnod, yn ôl Mr Rees.
"Cyfnod y bardd gwlad oedd cyfnod y storws - lle i gadw cynnyrch y fferm ond lle hefyd i fynd ar ddiwrnod gwlyb neu noson o aeaf i gymdeithasu, dweud stori ac efallai rhannu hanes y noson gynt, cerfio enw, barddoni neu, o leia' nodi llinell o farddoniaeth a fyddai wedi goglais y meddwl," meddai Mr Rees.
"Aeth y storws ac fe ddaeth y tŵr selio i glos y fferm.
"Collasom Tudfor, Dic a'u tebyg - ydyn ni wedi gweld darfod cyfnod y bardd gwlad?"
Yr englyn a gerfiwyd ar goed y to yw gwaith Dic Jones a ysgrifennodd i gyfarch Mr Rees ar ei ymddeoliad fel athro.
'Pan dry ar adeg segur - dy olwg
Dros dalar dy lafur
Dy gnwd di ac nid dy hur
Sy'n dy faes yn dy fesur'.
Dywedodd Mr Rees: "Mae'n hwyl cael 'ei rhoi yn ôl a'i chyflwyno yn awr wrth gofio Dic.
"Mae ei gynnyrch yntau yn y storws a hynny sy'n bwysig i ni."
Ychwanegodd Mr Rees fod gan Mr Jones barch mawr at feirdd ifainc a gwelai ddyfodol disglair i farddoniaeth Gymraeg.
Teulu'r Cilie
Yn ôl Mr Rees mae'r ffenest yn y tlws yn dynodi bod yr awen a'r weledigaeth yn parhau fel llanw cyson.
"Ceir pentir Aberporth gyda'r haul yn codi ,i ddynodi'r yfory, ond y tro hwn gwelir pedair ton yn torri, ton i bob un llinell mewn englyn," meddai Mr Rees.
"Rwy'n cofio geiriau Dic wrth drafod lle'r ffenest, 'i weld allan ac ymlaen i'r dyfodol'."
Mae'r llythrennau a gerfiwyd ar bren y ffenest yn dynodi enwau Mr Jones, ei frawd a'i chwiorydd mewn copr-plât i ddynodi cyfnod hŷn, a phrint mwy modern ar wyneb arall y pren, yn dynodi plant Mr Jones a'i wraig, Siân.
Dywedodd Mr Rees fod y syniad am greu'r stôr dan lawr yn y tlws wedi'i ysbrydoli gan Teulu'r Cilie.
Alun Jeremiah Jones (Alun Cilie) ddysgodd y grefft o gynganeddu i Dic Jones.
"Ceir hanesion ar lafar gwlad de Ceredigion yn adrodd am fois y Cilie wrth adeiladu tai mas ar ffermydd yn mynd ati amser cinio i farddoni," meddai Mr Rees."
"Byddent yn nodi'r cread ar bapur a'i rolio fel sigarét a'i thaflu i mewn gyda'r sment yn y waliau."
"Felly mae 'na wahoddiad i enillydd y Tlws hwn bob blwyddyn i gyflwyno'i englyn yn ei lawysgrif ei hun gan nodi teitl yr englyn a'r flwyddyn, rolio'r papur a'i osod yn ofalus yn y stôr dan llawr!"