Diwygio deddf i gynnwys stelcian
- Cyhoeddwyd
Mae cyfreithiau sy'n gwneud stelcian yn drosedd yn dod i rym dros y penwythnos yng Nghymru a Lloegr.
Fe fydd na ddwy drosedd - un o stelcio a'r llall o stelcio gydag ofn trais.
Roedd grŵp o Aelodau Seneddol ac arglwyddi wedi galw am ddiwygio'r ddeddf sy'n ymwneud â stelcian.
Mae stelcian - sy'n ymwneud â dilyn a phlagio unigolion eraill yn barhaus - yn gallu chwalu bywydau yn ôl Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Elfyn Llwyd.
Mr Llwyd oedd cadeirydd yr Ymchwiliad Seneddol Annibynnol, y tro cyntaf i ymchwiliad o'r fath gael ei gynnal.
'Llwyddo'
"Roedd yn amlwg bod hen ddeddf 97 ddim wedi rhagweld y byddai cymaint o gyd-cysylltu trwy ddulliau electronig, ac felly roedden ni'n gweld ei bod yn bwysig cael deddf sy'n cwmpasu'r holl ffyrdd electronig mae pobol yn eu defnyddio i gyfathrebu heddiw", meddai Mr Llwyd.
"Mae'n bwysig ein bod wedi llwyddo i wneud hynny.
"Mae'r llywodraeth wedi derbyn y mesur wnaethon ni gyflwyno yn ei grynswth mewn gwirionedd.
"Mae stelcian rŵan yn cael ei enwi yn drosedd benodol mewn deddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr, er mwyn adnabod nodweddion hynod y drosedd, a bydd angen sicrhau fod pob gweithiwr proffesiynol cyfiawnder troseddol yn derbyn hyfforddiant penodol er mwyn adnabod yr ymddygiad a dysgu sut i ddelio ag o.
"Mae'r ddeddf yn rhoi llais i ddioddefwyr stelcian, a rhoi cefnogaeth i'r unigolion dewr hyn wrth galon deddfwriaeth".
Yr Alban
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod angen trosedd newydd sbon yng Nghymru a Lloegr yn debyg i'r hyn a gyflwynwyd yn Yr Alban yn 2010.
Roedd yr adroddiad yn dweud mai ychydig iawn o bobl sydd wedi cael eu herlyn yn llwyddiannus hyd yma am drosedd o'r fath ac nad oedd gan y dioddefwyr ffydd yn y system gyfreithiol.
Derbyniodd y pwyllgor chwe mis o dystiolaeth gan ddioddefwyr, yr heddlu a sefydliadau amrywiol.
Felly o ddydd Sadwrn mae Deddf Gwarchod rhag Aflonyddu 1997 wedi ei diweddaru i gynnwys stelcian ac mae Cynllun Eiriolaeth dioddefwyr yn cael ei sefydlu i fod o gymorth i ddioddefwyr drwy'r system gyfiawnder.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2012