Bradley Manning yn ôl yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae'r gŵr sydd wedi ei gyhuddo o roi cannoedd o filoedd o ddogfennau cyfrinachol i wefan Wikileaks wedi ymddangos o flaen llys milwrol yn Maryland yn America.
Mae cyfreithwyr Bradley Manning, a gafodd ei fagu am gyfnod yn Sir Benfro, yn dadlau na ddylid parhau â'r achos yn ei erbyn.
Maent yn honni ei fod wedi cael ei gam-drin tra'i fod o dan glo.
Mae Preifat Manning, 24 oed, wedi cynnig pledio'n euog i gyhuddiadau llai difrifol.
Mae wedi cael ei ddal am ddwy flynedd a hanner wrth aros i sefyll ei brawf ar gyhuddiadau ei fod wedi datgelu cyfrinachau i wefan Wikileaks allai fod wedi peryglu staff milwrol America yn y Gwlff.
Dywed cefnogwyr y cyn filwr fod rhyddhau'r dogfennau wedi datgelu troseddau rhyfel ac wedi sbarduno gwrthdystiadau dros ddemocratiaeth yn y Dwyrain Canol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2012
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2012