Her Carwyn Jones: 'Papur gwyn erbyn 2013'
- Cyhoeddwyd
Mae Carwyn Jones wedi herio Llywodraeth San Steffan i gyhoeddi Papur Gwyn am ddatganoli erbyn diwedd tymor yr haf yn 2013.
Mewn dadl yn y Senedd dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn croesawu argymhellion Comisiwn Silk am bwerau benthyg i Lywodraeth Cymru.
"Does na ddim esgus i laesu dwylo," meddai. "Fy ngobaith i yw y bydd pwerau benthyg mewn grym erbyn mis Ebrill 2016."
Dywedodd Paul Davies o'r Ceidwadwyr ei fod yn croesawu bod y comisiwn "wedi derbyn argymhellion y papur baratowyd gan y Ceidwadwyr".
Yn anniddig
Roedd datganoli rhai pwerau trethu yn fanteisiol, meddai, ond roedd yn teimlo'n anniddig ynglŷn â datganoli agweddau ar y dreth incwm heb gynnal refferendwm gyntaf.
"Holl bwrpas adolygu'r drefn yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn fwy atebol am godi'r arian y maen nhw'n ei wario."
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Cyfle i ddewis y cynhwysion a phobi'r gacen yw hyn yn ogystal â phenderfynu sut i'w thorri a'i didoli."
Tra'n croesawu'r argymhellion, dywedodd fod angen dadl yn y Senedd am bwerau treth incwm.
Casglodd y comisiwn y dylai Llywodraeth Cymru gael grymoedd i amrywio treth incwm erbyn y flwyddyn 2020.
Yn ôl adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am godi tua chwarter ei chyllideb.
Nerth
Mae'r adroddiad, Grym a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i gryfhau Cymru, dolen allanol, yn dweud y byddai datganoli grymoedd dros rai trethi yn rhoi nerth yn nwylo'r etholwyr a Llywodraeth Cymru ac yn arwain at fwy o gyfrifoldeb ym Mae Caerdydd.
Mae'n nodi y dylai refferendwm gael ei chynnal a ddylai gweinidogion Cymru gael pwerau newydd yn ymwneud â'r dreth incwm.
Mae'r adroddiad yn cynnwys 33 o argymhellion gan gynnwys datganoli rhai trethi bach megis y dreth stamp, treth tirlenwi a tholl teithwyr awyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2011