Arthur Wood yw Arwr Tawel Cymru 2012
- Cyhoeddwyd
Arthur Wood yw enillydd gwobr Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru am 2012.
Mae Arthur wedi bod yn gwirfoddoli yng nghlwb saethu Abertawe ers dros 20 mlynedd, gan roi miloedd o oriau i gymorth i bawb sy'n mynd yno.
Bydd Arthur nawr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn noson wobrwyo Personoliaeth Chwaraeon y BBC 2010 yn arena ExCel yn Llundain ar nos Sul, Rhagfyr 16.
Ers 2003, mae'r BBC wedi bod yn cydnabod gorchestion pobl sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni er mwyn i bawb fedru cymryd rhan mewn chwaraeon, gyda'r enwebiadau yn dod o blith aelodau o'r cyhoedd.
Mae Arthur wedi defnyddio cadair olwyn ers iddo gael damwain ddiwydiannol yng ngwaith dur Llansawel yn 1969, pan gollodd ei goes a bysedd ei law dde.
Ac yntau'n 63 oed, mae'n barod i gyflawni unrhyw dasg sy'n ymwneud â rhedeg clwb saethu Abertawe.
Dywedodd: "Rwy'n cael llawer o bleser o'r lle yma, a dyma fy ail gartref - efallai fy nghartref cynta'!"
Mae'n agor y clwb dridiau bob wythnos, yn hyfforddi unigolion neu grwpiau, ac yn gweithredu fel swyddog dyletswydd ar y maes tanio.
Pencampwraig saethu Prydain yn y dosbarth 3X20, Sian Corish, yw un o'r rhai sydd wedi elwa o ymroddiad Arthur, a dywedodd:
"Mae e wedi bod yn anhygoel o safbwynt cefnogaeth, yn agor y clwb fel fy mod yn medru ymarfer yn syth ar ôl gwaith ac yn aros fel fy mod yn gallu dychwelyd yr offer yn hwyr yn y nos ac ar benwythnosau. Mae e'n wych!"
Yn y cyfamser, fe fydd rhestr fer yn enwebiadau ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru 2012 yn cael ei chyhoeddi fore Mercher, ac fe fydd manylion am sut i bleidleisio i'ch dewis chi yn cael eu cyhoeddi fore Llun, Rhagfyr 3.