Llifogydd: Marchnad Rhuthun i'r adwy
- Cyhoeddwyd
Bydd hi'n bosib i ffermwyr a oedd yn bwriadu gwerthu eu hanifeiliaid ym mart Llanelwy wneud hynny ym marchnad Rhuthun ddydd Iau.
Mae mart Llanelwy wedi ei ddifrodi ar ôl y llifogydd fore Mawrth.
Ar y Post Cyntaf bore Iau dywedodd yr arwerthwr Glyn Owens ei fod yn falch bod marchnad Rhuthun yn medru helpu rheolwyr mart Llanelwy.
Mae pellter o 14 milltir rhwng y ddau mart.
"Mae hi'n adeg bwysig o'r flwyddyn i ffermwyr fedru gwerthu eu hanifeiliaid. Mae hi'n braf bod hi'n bosib i rai oedd wedi bwriadu gwerthu yn Llanelwy ddod yma i Ruthun" meddai.
Dydi hi ddim yn glir eto pa bryd y bydd mart Llanelwy yn ail agor.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol