Personoliaeth Chwaraeon: Cau'r bleidlais
- Cyhoeddwyd
Caeodd y bleidlais am 6pm nos Sadwrn, Rhagfyr 8, 2012.
Bydd enillydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2012 yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun yn dilyn pleidlais gyhoeddus i ddeg o Gymry ym myd y campau.
Fe fydd y cyhoeddiad yn digwydd mewn noson wobrwyo yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar Ragfyr 10 gyda'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar BBC Radio Cymru a Radio Wales ac ar-lein, a bydd y canlyniad hefyd ar deledu BBC Cymru yn ddiweddarach ar y noson.
Ymysg y gwobrau eraill fydd yn cael eu cyflwyno ar y noson bydd Tîm y Flwyddyn, Person Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn (Merched a Bechgyn), Gwobr Llwyddiant Oes a'r Arwr Tawel.
Fe fydd adolygiad o'r flwyddyn chwaraeon yn cael ei ddarlledu ar nos Wener, Rhagfyr 21, ar BBC2 Cymru am 9:00pm, ac yn cael ail-ddarllediad ar Wyl San Steffan.
Dewis anodd
Mae dewis enwebiadau ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn dasg anodd bob blwyddyn, ond roedd 2012 yn arbennig o anodd wedi blwyddyn ysgubol i chwaraeon yng Nghymru.
Enillodd Geraint Thomas (seiclo) a Tom James (rhwyfo) eu hail fedalau aur Olympaidd yn dilyn eu llwyddiant yn Beijing yn 2008, ac fe enillodd Jade Jones y fedal aur gyntaf erioed i Brydain mewn taekwondo yn Llundain 2012.
Daeth llwyddiant yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain hefyd gyda Mark Colbourne (seiclo) yn cipio un fedal aur a dwy arian, Aled Sion Davies (taflu'r ddisgen a phwysau) yn ennill aur ac efydd, a Josie Pearson (taflu'r ddisgen) yn chwalu record y byd ar ei ffordd i ennill y fedal aur.
Leanda Cave yw'r fenyw gyntaf erioed i ennill Pencampwriaeth y Byd yn yr Ironman Triathlon a Hanner-Ironman Triathlon yn yr un flwyddyn, ac fe lwyddodd Nathan Cleverly i amddiffyn ei goron fel Pencampwr WBO is-drwm y Byd ddwywaith yn ystod y flwyddyn.
Yn cynrychioli campau tîm mae Dan Lydiate a gafodd ei ddewis fel chwaraewr gorau Pencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad eleni, tra bod Gareth Bale wedi bod yn seren ar lwyfan byd eang gyda Tottenham Hotspur a Chymru.
Nodwch nad oes cysylltiad o gwbl rhwng y digwyddiad yma a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y DU, ac mai gwobr i Gymru yn unig yw hon.
Mae'r bleidlais bellach wedi cau, ac os fyddwch yn ceisio pleidleisio nawr ni fydd eich pleidlais yn cyfri ond mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu am yr alwad ffôn neu neges destun.
Mae modd i chi weld rheolau ac amodau'r bleidlais (a gafodd eu cyhoeddi ym mis Tachwedd)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2012