Ymestyn cytundeb amddiffyn yng Nghwmbrân

  • Cyhoeddwyd
RFA Mounts BayFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llongau yn darparu cefnogaeth fel tanwydd a meddygon i'r Llynges Frenhinol

Mae pum cytundeb am waith cynnal a chadw ar longau'r llynges wedi cael eu hymestyn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Dywed y Weinyddiaeth bod y cytundebau, sy'n werth cyfanswm o tua £349 miliwn, yn debyg o warchod tua 800 o swyddi.

Mae undeb y GMB wedi croesawu'r newyddion.

Mae'r cytundebau, i bump o gwmnïau o Brydain gan gynnwys Hempel UK yng Nghwmbrân, ar gyfer gwaith ar 13 o lingau cefnogol y Llynges Brydeinig.

Mae'r rhain yn cynnwys tanceri twnaydd, llong feddygol a llongau glanio.

Adolygiad

Cafodd y cytundebau gwreiddiol ei creu yn 2008 am gyfnod cychwynnol o bum mlynedd.

Yn dilyn adolygiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, maen nhw wedi cael eu hymestyn am bum mlynedd arall.

Y cwmnïau eraill yw Cammell A&P Group Ltd yn Falmouth, Lloyds Register ym Mryste, Cammell Laird Ship Repairers and Shipbuilders Ltd ym Mhenbedw a Trimline Ltd yn Southampton.

Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn Philip Dunne bod y longau "yn hanfodol o waith y llynges".

"Bydd y cytundebau sylweddol yma nid yn unig yn gwarchod cannoedd o swyddi yn y DU, ond yn sicrhau y gall y llongau yma barhau i weithio am flynyddoedd i ddod," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol