Cyhoeddi bod Duges Caergrawnt yn disgwyl babi

  • Cyhoeddwyd

Mae Duges Caergrawnt yn disgwyl babi.

Fe ddaeth cadarnhad ddydd Llun gan Balas St James.

Dywedodd y llefarydd bod "Dug a Duges Caergrawnt yn falch o gyhoeddi bod y Dduges yn feichiog".

"Mae'r Frenhines, Dug Caeredin, Tywysog Cymru, Duges Cernyw a'r Tywysog Harry yn ogystal ag aelodau'r ddau deulu yn falch iawn o'r newyddion."

Aed â'r Dduges i Ysbyty Brenin Edward VII yn Llundain ddydd Llun gyda salwch boreol difrifol ac mae ei gŵr, sy'n gweithio gyda'r Llu Awyr yn Y Fali, Ynys Môn, yno gyda hi.

Mae disgwyl iddi aros yno am rai dyddiau wrth i brofion pellach gael eu cynnal a bod angen maeth.

Doedd Palas St James ddim am fanylu pryd oedd y cwpl, a briododd ym mis Ebrill 2011, yn ymwybodol o'r beichiogrwydd, dim ond dweud, "yn ddiweddar".

Deallir nad ydi'r beichiogrwydd wedi mynd heibio'r 12 wythnos a bod y cyhoeddiad wedi ei wneud oherwydd cyflwr meddygol y Dduges.

Cafodd hi ei gweld yn gyhoeddus ddiwethaf ddydd Gwener ar ymweliad a'i hen ysgol yn Sir Berkshire.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol