Cadarnhad y bydd corff cymwysterau newydd yn cael ei sefydlu

  • Cyhoeddwyd
Arholiadau
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y corff newydd yn gyfrifol am gymwysterau Cymru

Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi cyhoeddi y bydd corff cymwysterau newydd yn cael ei greu ar gyfer Cymru.

Roedd hwn yn un o argymhellion Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer Pobl Ifanc 14-19 oed yng Nghymru a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Leighton Andrews ei fod wedi "ymrwymo i gryfhau trefniadau rheoleiddio a sicrhau ansawdd, er enghraifft drwy wella proses rheoli cymeradwyo cymwysterau, gan roi mwy o bwyslais ar berthnasedd, diben a gwerth".

Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i'r llywodraeth yr wythnos diwethaf ac mae disgwyl ymateb llawn y llywodraeth ddiwedd mis Ionawr.

Dywedodd Mr Andrews fod y Dirprwy Weinidog Sgiliau ac yntau am "gyhoeddi'r cyfeiriad yr ydym yn bwriadu ei ddilyn o ran rheoleiddio cymwysterau".

Dyfarnu

"Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gytûn ag un peth yn yr adolygiad - sef y cynnig yn argymhelliad 5 y dylid cryfhau rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru a'i wahanu oddi wrth y llywodraeth," meddai Mr Andrews.

Mae'r adolygiad yn argymell sefydlu corff cymwysterau fyddai'n dyfarnu cymwysterau a'u rheoleiddio.

"Derbyniwn yr argymhelliad hwn ac fe weithiwn i sefydlu'r corff, Cymwysterau Cymru, i reoleiddio pob cymhwyster nad yw ar lefel gradd yng Nghymru," meddai.

"Fel yr argymhellir yn yr adolygiad byddwn yn astudio'r model sydd wedi bod ar waith yn Yr Alban ers rhai blynyddoedd ac yn ceisio dysgu gwersi.

"Fel mae'r adolygiad yn cydnabod, bydd angen rhoi cryn dipyn o feddwl i sut y bydd Cymwysterau Cymru'n cael ei lywodraethu a'i weithredu a beth fydd ei gylch gwaith a'i strwythur."

Cadeirio

Dywedodd ei fod wedi gofyn i swyddogion gomisiynu adolygiad ar fyrder ac, ar sail yr hyn a ganfyddir, ddatblygu cynigion manwl ac achos busnes yn hanner cyntaf 2013 i wneud yn siŵr bod y ffordd newydd, arfaethedig o weithio yn ymarferol ac yn sicrhau gwerth am arian.

Mae Huw Evans, Cadeirydd yr Adolygiad o Gymwysterau, wedi cytuno i gadeirio Grŵp Gorchwyl a Gorffen a gaiff ei sefydlu yn gynnar yn 2013 er mwyn llywio'r gwaith o sefydlu Cymwysterau Cymru.

Bydd y grŵp yn cynghori ar faterion yn ymwneud ag amseru, llywodraethu, strwythurau ac ymarferoldeb.

Dywedodd Simon Thomas AC ar ran Plaid Cymru: "Rydym yn croesawu creu corff cymwysterau newydd i safoni cymwysterau ac arholiadau.

"Yr oeddem yn ymwybodol o'r mater hwn cyn y ffrae rhwng Llywodraeth Cymru ac Ofqual ynghylch ail-raddio TGAU Iaith Saesneg yr haf hwn.

"Cafodd hyn ei gynnwys yn ein cyflwyniad i'r ymgynghoriad ar yr Adolygiad Cymwysterau a gaewyd ar 1 Medi.

"Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu marchnadeiddio addysg gyda darparwyr cymwysterau yn cystadlu i werthu eu cymwysterau ymlaen i ysgolion".

'Tro pedol'

Dywedodd Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn croesawu "tro pedol" y gweinidog ar sefydlu rheoleiddiwr annibynnol.

"Mae hyn yn mynd i sicrhau na fydd y sefyllfa a'r ddadl a gafwyd dros yr haf am arholiadau TGAU Saesneg yn digwydd eto," meddai Angela Burns, llefarydd y blaid ar addysg.

"Bydd y tro pedol yn lleihau gallu'r Gweinidog Addysg i ymyrryd yn y modd y mae cymwysterau yn cael eu rheoli."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi croesawu'r cyhoeddiad.

Dywedodd Aled Roberts, llefarydd y blaid ar addysg, ei fod yn falch "bod y gweinidog o'r diwedd wedi derbyn bod rhaid i'r corff rheoleiddio fod ar wahân i'r llywodraeth".

"Dwi'n edrych ymlaen i fod yn rhan o'r broses ac yn edrych ymlaen at yr ymateb llawn fis nesa.

"Mae'r cyhoeddiad yma yn ymddangos i ragweld mwy o gydweithio o ran addysg a dwi'n gobeithio y bydd hynny yn parhau."

Dywedodd CBAC eu bod "yn croesawu bwriad y Gweinidog i sefydlu Cymwysterau Cymru yn rheoleiddiwr sydd wedi ei gryfhau a'i wahanu oddi wrth y llywodraeth.

"Rydym o'r farn y dylai'r corff hwn fod yn annibynnol hefyd o sefydliadau dyfarnu, yn enwedig wrth iddo reoli'r risgiau ynghlwm wrth yr agenda uchelgeisiol i ddatblygu cymwysterau a ddisgrifir yn yr Adolygiad Cymwysterau 14-19".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol