Araith Osborne: Dadansoddiad
- Cyhoeddwyd
Nye Bevan, y sosialydd tanbaid o Lyn Ebwy a sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd, ddywedodd fod gwleidyddiaeth yn fater o flaenoriaethu.
Yn ddiamau, wrth i'r Canghellor George Osborne yn ei araith yn San Steffan ddatgelu ei flaenoriaethau economaidd a'i gynlluniau ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus, gallwn fod yn sicr fod goblygiadau'r hyn ddywedodd o, yn bellgyrhaeddol mewn ystyr gwleidyddol hefyd.
Gwaith y Canghellor heddiw oedd i osod y cyd-destun economaidd hyd at y flwyddyn 2015.
Ond fel prif strategydd etholiadol ei Blaid, mae o hefyd wedi gosod y cyd-destun gwleidyddol ar gyfer Etholiad Gyffredinol San Steffan yn 2015.
Yn sicr mi fydd effaith yr hyn gyhoeddwyd heddiw yn dylanwadu ar dynged y Torïaid a'u partneriaid y Democrataidd Rhyddfrydol heddiw.
Os ydi'r hyn gafodd ei gyhoeddi yn gweithio a dwyn ffrwyth, yna mi fydd pleidiau'r Glymblaid ar eu hennill yn yr etholiad . Ond beth os ydyn nhw'n methu?
Clochdar
Dro ar ôl tro mae plaid Nick Clegg wedi cael eu cystwyo am gynnal breichiau'r Torïaid.
Ond mae holl natur llywodraeth glymblaid yn golygu fod y blaid lai yn gwneud eu gorau glas i gael y clod am rywbeth sy'n boblogaidd ond yn ceisio ymbellhau rhag y polisïau sy'n gadael blas drwg.
Dyna pam er enghraifft o fewn munudau i Mr Osborne orffen ei araith, roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad Cenedlaethol Kirsty Williams yn clochdar mai dylanwad ei phlaid hi o fewn y glymblaid, oedd yn egluro'r cyhoeddiad ynglŷn â threth incwm.
"Oes mae gan y Torïaid eu blaenoriaethau" meddai "ond y ni sy'n sicrhau fod pobl sy'n gweithio yn galed yn cael cadw mwy o'u harian"
Ond mae 'na gwestiwn: ai felly arwydd o ddiffyg dylanwad ei phlaid hi fel 'gweision bach' y Ceidwadwyr sy'n egluro pam nad oedd George Osborne wedi derbyn eu hoff bolisïau'r Democratiaid Rhyddfrydol: sef treth ar Dai Mawr.
Dirprwy
George Osborne wnaeth yr araith heddiw ond y Democrat Rhyddfrydol Danny Alexander yw pensaer llawer o'r polisïau ar wario a thoriadau yn y sector gyhoeddus gan mai fo yw dirprwy Mr Osborne yn y Trysorlys.
Mae'n obsesiwn gan bob llywodraeth i gael eu gweld yn dilyn polisïau cyfrifol' o ran bugeilio'r economi.
Yn 1997, ymrwymodd y Llywodraeth Lafur newydd i lynu at gynlluniau gwario llywodraeth John Major.
Yn 2007, ymrwymodd George Osborne y byddai llywodraeth Dorïaidd yn "gwario punt am bunt" ar wasanaethau cyhoeddus yn unol â chynlluniau gwario'r llywodraeth Lafur. Addewid Gordon Brown, y Canghellor ar y pryd oedd y byddai Llafur yn cynyddu gwariant ar y gwasanaethau o 2%
Yna daeth y trychineb wrth i economi un wlad ar ôl y llall yn y Gorllewin, lithro i ddirwasgiad ddaru barlysu economïau o Milwaukee i Milan.
Y cynfas hwnnw oedd cyd-destun yr hyn ddywedodd y Canghellor.
Mae'r economi yn dechrau mendio a'r ddyled yn mynd yn llai ond does ganddo gwta tair blynedd i saernïo polisïau fydd yn dwyn ffrwyth etholiadol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012