Un lôn o'r A55 ar gau yng Ngwynedd wedi llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae rhan o'r A55 yng Ngwynedd wedi cau oherwydd llifogydd.
Mae un lôn orllewinol rhwng Llandegai (cyffordd 11) ac Abergwyngregyn (cyffordd 13) ar gau.
Bu'r un rhan o'r ffordd ar gau ar Dachwedd 23 oherwydd llifogydd gan achosi tagfeydd difrifol yn yr ardal.
Mae un o Aelodau Cynulliad y Gogledd, Aled Roberts, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad i'r achos hwnnw.
Mae gan y Swyddfa Dywydd rybudd o rew i siroedd y dwyrain hefyd dydd Gwener.
Fe gyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd chwe rhybudd i fod yn barod am lifogydd gan fod llifogydd yn bosib.
"Mae'n oer iawn ddydd Gwener, diolch i'r gwynt o gyfeiriad y gogledd orllewin - er dyw hi ddim yn fore mor oer â dydd Iau," meddai Yvonne Evans, cyflwynydd tywydd BBC Radio Cymru.
"Fe fydd hi'n ddiwrnod sychach ac mae rhai cawodydd mewn manne yn y gorllewin, rhai gaeafol ar dir uchel.
"Fe fydd y gwynt yn hyrddio rhwng 30 a 50 milltir yr awr mewn llefydd agored."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2012