Galw am gomisiwn iaith yn yr ardaloedd traddodiadol
- Cyhoeddwyd
Mae ymgynghorydd ar y Gymraeg wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i sefydlu comisiwn i edrych ar sefyllfa'r iaith.
Dywedodd Cefin Campbell, a sefydlodd y fenter iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, ei bod yn ddiwrnod "torcalonnus" a'i fod yn "siomedig iawn" o weld canlyniadau'r Cyfrifiad a gyhoeddwyd ddydd Mawrth.
Mae ardaloedd y gorllewin wedi gweld dirywiad dros y 10 mlynedd diwethaf a dywedodd ei bod yn fater "pryderus i ni sy'n byw yn Sir Gâr a rhai sydd wedi gweithio yn galed i geisio adfer y Gymraeg".
"Yn sicr cyn heddiw, roedd pawb wedi proffwydo y byddai cynnydd bach mewn rhai ardaloedd, ond mae'r canlyniadau yn dangos ein bod wedi cymryd cam yn ôl yn y 10 mlynedd diwethaf.
"Rydym wedi colli'r momentwm a gafwyd cyn y cyfrifiad blaenorol yn 2001.
"Dwi'n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn arbennig a fydd yn edrych ar sefyllfa'r Gymraeg yn yr ardaloedd traddodiadol, yn y cadarnleoedd, a datblygu strategaeth a fydd yn ceisio cysylltu dyfodol yr iaith gydag economi, addysg a mewnfudo.
"Rhaid edrych o ddifri a chanfod atebion a chynlluniau i fynd i'r afael a hyn.
"Mae'n syfrdanol a dweud y gwir ein bod am y tro cyntaf yn hanes Cymru yn gweld bod llai na hanner poblogaeth yn siarad y Gymraeg yn Sir Gâr a Cheredigion, ergyd seicolegol aruthrol i gyflwr yr iaith ac i'r rhai sy'n ceisio hyrwyddo'r iaith."
Arian
Dywedodd bod nifer o resymau am y dirywiad ond y prif ffactor yw diffyg trosglwyddiad iaith yn y cartref.
"Mae 'na ddiffyg dilyniant iaith a newid demograffig o ran mewnfudo ac allfudo hefyd sy'n allweddol."
Dywedodd bod angen buddsoddi mwy o arian i sicrhau bod strategaeth iaith Llywodraeth Cymru, Iaith Pawb, yn dwyn ffrwyth.
Ychwanegodd bod angen arian ar fentrau iaith a sefydliadau er mwyn gwneud mwy yn y cymunedau a rhoi cyfle i'r Gymraeg gael ei chlywed.
"Dwi'n siomedig iawn hefyd mai cynnydd bach sydd 'na yng Nghaerdydd o ystyried bod pobl ifanc yn symud yno a thwf mewn addysg yn y brifddinas," meddai.
"Mae'n drist gweld hefyd y canlyniadau ymhlith y plant 5-15 oed gan mai nhw fydd yn arwain yn y dyfodol."
Eglurodd bod mudiad Tŵf wedi gwneud gwaith arbennig o dda dros y blynyddoedd, ond mae angen llawer mwy o bobl i weithio gyda nhw i annog Cymraeg yn y cartref.
"Dwi'n credu bod 'na fodd i ni ddangos i rieni beth yw manteision plant o gael y ddwy iaith."
Addysg
Ychwanegodd bod diffyg parhad ag addysg Gymraeg yn destun pryder iddo.
"Mae 'na nifer o resymau pam bod dirywiad iaith yn digwydd," meddai.
"Yn siroedd y gorllewin gwelwn nifer o rieni yn mynd a'u plant, 25-30%, i ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg ar ôl addysg cynradd Cymraeg."Ymhlith y rhesymau sy'n cael eu rhoi am hyn yw bod rhieni di-Gymraeg yn poeni na allen nhw helpu gyda'r gwaith cartref; bod Cymraeg y plant ddim yn ddigon da i barhau ag addysg; bod Saesneg yn iaith bwysicach ar gyfer cyfrwng addysg na'r Gymraeg a bod rhai eisoes wedi gwneud digon o Gymraeg fel nad oes angen parhau."
Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru Leighton Andrews: "Mae'r iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn wynebu her, a'r pwynt yw peidio â rhoi'r bai ar bobl, ond penderfynu sut i gydweithio er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r iaith."
Ychwanegodd fod strategaeth newydd wedi ei lansio ym mis Mawrth oedd yn cynnwys hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg wrth ddefnyddio gwefannau cymdeithasol.
Dywedodd llefarydd fod y strategaeth yn cydnabod "sefyllfa fregus yr iaith" ac yn edrych i hyrwyddo'r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd.