Y Gymraeg 'mewn argyfwng' yn ôl Cymdeithas yr Iaith
- Cyhoeddwyd
Wrth ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2011 fe ddywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod yr iaith "mewn argyfwng".
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddodd y manylion fore Mawrth.
Roedd 'na ostyngiad o 2.75% yn nifer y rhai yng Nghymru dros 3 oed yn siarad Cymraeg yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.
Roedd y gostyngiad mwyaf yn Sir Gaerfyrddin a chynnydd bach iawn oedd yng Nghaerdydd, Rhondda Cynon Taf a Sir Fynwy.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targed yn 2003, yn y strategaeth iaith, i gynyddu nifer y siaradwyr 5% i 26%.
Dywedodd y mudiad iaith y bydden nhw'n lansio "maniffesto byw" yr wythnos hon cyn cynnal rali yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn.
'Pryder dirfawr'
"Mae'r newyddion hyn yn adlewyrchu'n wael iawn ar Lywodraeth Cymru a osododd darged o gynyddu nifer y siaradwyr," meddai Robin Farrar, Cadeirydd newydd-etholedig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar, ei fod wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Prif Weinidog Carwyn Jones.
"Rwy'n gobeithio y bydd Carwyn Jones yn trefnu cyfarfod gyda ni ar frys oherwydd bod angen camau newydd, dewr a chlir gan y llywodraeth ar bob lefel i wrthdroi'r dirywiad a ddangosir yng nghanlyniadau'r Cyfrifiad.
"Mae'r gostyngiad yn holl siroedd y gorllewin yn fater o bryder dirfawr.
"Y gwir yw bod pobl Cymru yn gefnogol iawn i'n hiaith unigryw ond dydy'r Llywodraeth ddim yn gwireddu eu huchelgais.
'Cryfder'
"Mae dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar fodolaeth a chryfder ardaloedd lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg.
"Rhaid mynd i'r afael â nifer o ffactorau ar frys er mwyn gwrthdroi'r dirywiad yn nifer o siroedd lle mae'r Gymraeg wedi bod yn gryf yn draddodiadol, yn enwedig, y patrymau allfudo a mewnfudo, sicrhau swyddi Cymraeg eu hiaith a'r system addysg."
Dywedodd Mentrau Iaith Cymru fod angen mwy o adnoddau i hybu'r defnydd o'r iaith a dull cyfannol wrth geisio cynyddu nifer y siaradwyr.
Roedd dewis iaith unigolyn yn gymhleth, meddai, ac yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys gallu ieithyddol y teulu a'u cylch cymdeithasol.
"Mae'r iaith Gymraeg yn iaith y lleiafrif yn rhai o'r cadarnleoedd lle byddai neb wedi credu hynny genhedlaeth yn ôl.
"Y sicr, mae'r twf yn nifer y siaradwyr Cymraeg o oedran ysgol yn galonogol, ac yn dangos bod angen buddsoddiad sylweddol i sicrhau bod sgiliau iaith y grŵp yn cael eu gwarchod.
"Ond mae canlyniad y Cyfrifiad yn dangos yr angen am adnoddau ar draws pob grŵp oedran ac nad yw buddsoddi mewn addysg Gymraeg yn unig yn ddigon i gynhyrchu mwy o siaradwyr Cymraeg."
Blaenoriaethu
Dywedodd Dyfodol i'r Iaith fod canlyniadau'r Cyfrifiad yn profi'r angen am weithredu cadarnhaol o blaid y Gymraeg.
"Mae gweithredu cadarnhaol yn ôl natur ieithyddol y gwahanol ardaloedd yn dod yn hanfodol," yn ôl Bethan Jones Parry, llywydd y mudiad.
Mynnodd fod rhaid i Lywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i ddulliau hybu'r iaith dros y 10 mlynedd nesaf.
"Rydyn ni'n croesawu'r cynnydd yn nifer y siaradwyr mewn ardaloedd llai Cymraeg," meddai.
"Dyna brofi bod addysg Gymraeg yn gwneud newid mawr a bod dyhead cyffredinol i weld y Gymraeg yn iaith fyw yn y gymdeithas unwaith eto.
"Mae gwendid yr iaith yn yr ardaloedd Cymraeg o'u cymharu â'r sefyllfa 10 mlynedd yn ôl yn adlewyrchu'r symudiadau poblogaeth uchel yn yr ardaloedd hyn yn ogystal â gwendid economaidd.
"Dylid ystyried creu ardaloedd twf mewn trefi yn y gorllewin a'r gogledd ac mae angen adleoli adrannau o'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus a allai weinyddu yn Gymraeg.
"Bydd hyn yn fodd o ddenu siaradwyr Cymraeg allweddol i'r economi.
"Rhaid gosod ffactorau ieithyddol yng nghanol y broses gynllunio ac ailedrych ar frys ar y targedau tai afresymol o uchel osododd Llywodraeth Cymru ar yr awdurdodau lleol."