Canlyniadau Cyfrifiad yn rhai siomedig, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
"Addysg, tai a gwaith yw'r tri maes y mae angen mynd i'r afael â nhw ar fyrder," meddai Comisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd Meri Huws fod y canlyniadau'n siomedig.
"Er bod disgwyl y byddai'r map ieithyddol wedi newid ers 2001, mae'n wir dweud bod yr ystadegau a gyhoeddwyd heddiw'n ysgytwad.
"Efallai bod yna berygl wedi bod i bawb fynd i ryw gyfforddusrwydd artiffisial 10 mlynedd yn ôl gan gredu bod tro ar fyd - a bod twf mewn rhai ardaloedd yn gwneud yn iawn am y gostyngiad mewn ardaloedd eraill.
"Os mai felly oedd hi am y 10 mlynedd diwethaf, yna mae'r cloc larwm wedi canu'n uchel iawn ... ac mae yna heriau pendant i'w hateb ..."
'Her enfawr'
Dywedodd mai ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg fyddai rheoleiddio gweithredoedd y llywodraeth a sefydliadau eraill, gan sicrhau bod y problemau a'r rhwystrau oedd yn wynebu'r iaith yn cael eu datrys drwy greu a gweithredu polisïau cadarn. Felly y byddai cyfleoedd newydd yn cael eu creu.
Roedd angen iddi wneud yn siŵr, meddai, fod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn sicrhau bod yna ddarpariaeth addysg briodol ar gyfer y grŵp oedran 3-18 oed.
"Mae graddfa'r gostyngiad yn siaradwyr Cymraeg siroedd Caerfyrddin a Cheredigion yn her enfawr.
"Bellach ni allwn ddibynnu ar ddefnydd cymunedol yn unig i sicrhau parhad y Gymraeg yn yr ardaloedd hyn a bydd angen i ni droi at greu cyfundrefn addysg a pholisïau cynllunio sy'n ymateb i'r her.
'Y farchnad dai'
"Mae'r farchnad dai, mudoledd a diffyg gwaith yn ffactorau sy'n golygu bod y Gymraeg yn colli ei thir yn y siroedd gorllewinol, gyda'r bobl ifanc lleol yn gadael eu bröydd.
"Wrth i mi osod safonau statudol ar awdurdodau lleol, bydd gofyn iddyn nhw ystyried effaith ar y Gymraeg ym mhob un penderfyniad polisi y maen nhw'n ei wneud.
"Mae'r ffeithiau yn dangos yr her yn glir iawn ond mae'n bwysig i ni gofio mai her sydd yma nid anobaith."