Trafodaethau'n cychwyn ar sut i hybu a chryfhau'r iaith

  • Cyhoeddwyd
Cyfrifiad 2011
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Cyfrifiad ei gynnal ar Fawrth 27 2011

Diwrnod wedi cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011 mae'r trafod yn parhau ynglŷn â'r hyn sydd angen ei wneud er mwyn gwarchod yr iaith.

Yn ôl yr ystadegau a gyhoeddwyd gan Swyddfa Ystadegau Gwladol, 19% o drigolion Cymru wnaeth gofnodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg.

Mae nifer y siaradwyr wedi gostwng 20,000 ers 2001.

Dim ond mewn dwy sir bellach y mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg, Ynys Môn a Gwynedd.

Mae'r gwrthbleidiau a grwpiau sy'n ymgyrchu dros yr iaith wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am y gostyngiad yn nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg.

Mae'r Mentrau iaith wedi galw ar y llywodraeth am ragor o adnoddau er mwyn hyrwyddo'r iaith tra bod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw am gyfarfod brys gyda Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Defnyddio'r iaith

"Yn sicr mae'n rhaid edrych ar y blaenoriaethau a rhoi mwy o fuddsoddi," meddai Deris Williams o Fenter Cwm Gwendraeth.

"Arian bach iawn sy'n cael ei wario yng nghyd-destun popeth arall ar y Gymraeg.

Disgrifiad,

Barn Pobl Wrecsam

"Dyw'r canlyniadau ddim yn syndod pan chi'n clywed yr iaith a'i sefyllfa ar lafar bob dydd.

"Mae cymunedau wedi newid a dyna yw mentrau iaith, rhywbeth cymunedol sy'n adlewyrchu anghenion y cymunedau hynny."

Ond sut mae cael mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg?

"Dwi'n meddwl bod angen i ni gyd gydweithio efo'n gilydd, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector fel yr Urdd," meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd.

"Mae ysgolion yn gwneud gwaith gwych, ond mae angen i'w gwneud hi'n bosib byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Dwi'n derbyn bod y Gymraeg yn iaith leiafrifol sy'n cyd-fyw gydag iaith gryfa' byd ac mae adnoddau sydd gan yr Urdd a mentrau iaith yn fychan iawn.

"Mae angen i bob asiantaeth yn yr ardaloedd fel Sir Gâr a Cheredigion, os o ddifri am warchod ein hetifeddiaeth, ddod at ei gilydd."

Dywedodd bod y gwaith ymchwil mae'r mudiad wedi ei wneud yn dangos bod pobl ifanc yn gwbl bendant ac yn falch iawn o'i Chymreictod ac yn falch eu bod yn gallu siarad Cymraeg ond eu bod yn teimlo nad oes digon o ddarpariaeth ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Colli hyder

Dywedodd Gethin Thomas, Pennaeth Ysgol Dewi Sant Llanelli a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Sir Gâr 2014, fod y canlyniadau yn adlewyrchu'r newid sydd wedi digwydd yn yr ardal.

"Mae'r galw am addysg Gymraeg yn cynyddu ac mae'r ddarparith ar gynnydd.

Disgrifiad,

Adroddiad Aled Hughes o Wynedd a Môn

"Ond rydym yn gweld y newid o ran y mewnfudiad ar y stryd.

"O edrych ar y ddarpariaeth yn y dref, mae rhywun yn meddwl lle mae'r iaith.

"Mae'r cyfle yn yr ysgol, ond wedi mynd i'r ysgol uwchradd, mae nifer o'r plant yn colli'r hyder.

"Gweld dylanwad wrth i'r Eisteddfod ddod yma a mawr obeithio y bydd gwaddol amlwg wedi prifwyl 2014 yn cael effaith bositif ar y Gymraeg yn y sir."

Yn y gogledd ddwyrain roedd 'na ostyngiad o 2% yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

"Y gwir ydi bod 'na wahaniaethau mawr mewn gwahanol rannau o'r gogledd ddwyrain," meddai David Jones, Pennaeth Coleg Glannau Dyfrdwy.

"Yn Ninbych er enghraifft mae dylanwad Coleg Llysfasi a byd amaeth yn cynnig cyfleodd ond wedyn yn fwy i'r dwyrain yng Nghei Connah ac i lawr i Wrecsam y cyfle yn wahanol.

"Mae angen cydweithio gyda'r byd addysg er mwyn cynnig cyfleodd o ran gwaith a lle mae 'na wir alw am siaradwyr Cymraeg.

"Rhaid gwneud yn siŵr bod 'na ddyfodol i bobl weithio yn y gogledd ddwyrain ac os nad oes 'na swyddi, mae dyfodol iaith yn mynd i ddibynnu ar y bobl ifanc."

Hwb ymhlith yr ifanc

Dywedodd y Cynghorydd Llafur Alban Rees o Gyngor Cymuned Pontyberem bod y newid wedi ei weld dros y blynyddoedd.

"Mae pobl yn symud mewn i'r ardal, dydyn nhw ddim yn wrth-Gymreig ac maen nhw'n awyddus i'w plant gael addysg Gymraeg.

"Ond be sy'n digwydd pan mae'r plant yn gadael ysgol, maen nhw'n gadael yr ardal a ddim yn dod yn ôl.

"Rydym yn colli rhieni'r dyfodol."

Dywedodd nad yw hyn yn rhywbeth newydd, ond bod yr economi yn cael effaith ar y cymunedau.

"Ar lefel cymuned efallai ein bod ni yn eithriad, yn cynnal ein cyfarfodydd drwy'r Gymraeg ac yn ceisio hybu'r iaith gorau posib.

"Ond mae'n dod yn ôl at ewyllys pobl.

"Os nad ydi'r iaith yn cael ei meithrin ar yr aelwyd fe fydd yn arwain at lawer o broblemau."

Ac fe ychwanegodd Hywel Jones, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin sydd wedi ei leoli yn Aberystwyth ei fod yn falch iawn o weld y cynnydd yn y canran rhai 3-4 oed sy'n gallu siarad Cymraeg.

"Os allwn ni gadw'r twf yna o 5% rydan ni ar y trywydd cywir."