Ysgol: 'Mesurau Arbennig'

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Cyngor Sir PowysFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor Powys: Yn derbyn argymhellion Estyn

Mae mesurau arbennig wedi cael eu gosod ar ysgol uwchradd ym Mhowys yn dilyn beirniadaeth gan Estyn.

Fe wnaeth arolygwyr Estyn ymweld ag Ysgol John Beddoes yn Llanandras, Powys, ym mis Hydref.

Nawr bydd swyddogion o Bowys a Cheredigion yn cael eu hanfon i'r ysgol er mwyn cefnogi'r staff.

Dywedodd y cynghorydd Myfanwy Alexander, aelod o Gabinet Powys gyda chyfrifoldeb am addysg, fod yr adroddiad yn siomedig "ac yn fater o bryder mawr i'r ysgol a'r cyngor sir."

Ychwanegodd fod y prif athro a'r corff llywodraethol yn derbyn casgliadau ac argymhellion y corff arolygu.

Bydd y cyngor sir nawr yn llunio cynllun i fynd i'r afael â'r diffygion gafodd eu cofnodi yn yr adroddiad.

Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i Estyn yn y Flwyddyn Newydd, ac yna bydd arolygwyr yn ymweld yn gyson â'r ysgol.

Dywedodd Mr Steve Jones, cadeirydd y llywodraethwyr: "Mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn rhai heriol i bawb sy'n ymwneud a'r ysgol.

"Mae'r corff llywodraethol yn ogystal â'r tîm rheoli yn ymwybodol fod angen gwneud gwelliannau.

"Rydym wedi dechrau cyd weithio gyda'r Awdurdod Addysg a'r tîm rheoli i wneud newidiadau a gwelliannau er mwyn codi safonau."