Gwrthod cais i godi tai oherwydd effaith y datblygiad ar y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i godi 336 o dai ar dir ger Rhydaman wedi cael eu gwrthod gan gynghorwyr Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y cais ym Mhenybanc ei wrthod yn rhannol oherwydd yr effaith fyddai'r datblygiad yn ei chael ar yr iaith Gymraeg.

Roedd swyddogion Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi argymell bod y cais yn cael ei dderbyn.

Ond roedd aelodau o bwyllgor cynllunio'r sir yn poeni am effaith niweidiol ar y Gymraeg.

Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2011, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn nodi gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl yn sir sy'n medru'r Gymraeg.

Roedd 'na ostyngiad o 6% yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir.

Disgrifiad,

Gareth Glyn yn holi'r Cynghorydd Alun Lenny am benderfyniad y cyngor

Dau asesiad

Mae cais cynllunio eisoes wedi ei roi ar gyfer 140 o dai ar y safle.

"Roedd hi'n anorfod bod cysgod y Cyfrifiad yn drwm dros y cyfarfod," meddai'r Cynghorydd Alun Lenny, un o aelodau'r pwyllgor.

"Mae 'na ddau asesiad wedi ei wneud ar effaith y cynllun ar yr iaith.

"Mae un gan y cyngor cymuned sy'n nodi y byddai effaith niweidiol a'r hall gan y datblygwr yn dweud na fyddai."

Eglurodd Mr Lenny bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg, cyn cael ei ddiddymu fis Mawrth, wedi edrych ar y ddau asesiad ac wedi dod i'r casgliad y byddai'r cynllun yn niweidiol.

"Fe wnaeth mwyafrif y cynghorwyr wrthod y cais ar sail pryderon am yr iaith a gwrthwynebiadau eraill," ychwanegodd Mr Lenny.

"Mae niwed posib i'r iaith yn ystyriaeth cynllunio dilys bellach.

"Ac roedd hyn yn flaengar yn ein meddwl."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol