Label Recordiau Sain ar werth
- Cyhoeddwyd
Mae label Recordiau Sain - a sefydlwyd yn 1969 - yn cael ei roi ar werth.
Dywedodd cyfarwyddwyr y cwmni fod yr amser i werthu wedi dod gan eu bod yn heneiddio.
Nid yw'r cwmni, sy'n cyflogi 24 o bobl - wedi cyhoeddi'r pris gwerthu, ond credir fod ôl-gatalog y cwmni yn werth swm sylweddol iawn.
Y nod yw ei werthu fel busnes hyfyw fel y gall y busnes barhau i fasnachu.
Sefydlwyd Sain yng Nghaerdydd cyn symud i Benygroes ac yna Llandwrog ger Caernarfon yn y 1970au.
Record gynta'r cwmni oedd un gan un o'r cyfarwyddwyr gwreiddiol, Huw Jones, sef 'Dŵr'.
Ers hynny maen nhw wedi recordio cannoedd o artistiaid o bob math o gerddoriaeth, gan gynnwys Bryn Terfel, Catatonia, Geraint Jarman a Catrin Finch.
Mae'r cwmni hefyd yn cynhyrchu DVDs Cymraeg a llyfrau.
Pryder
Dywedodd un o'r tri chyfarwyddwr, Dafydd Iwan, ei bod yn amser da i werthu.
"Er bod y diwydiant cerddoriaeth wedi bod trwy gyfnod anodd, rydym mewn sefyllfa fel cwmni i ddweud ein bod heibio'r gwaethaf."
Mae pryder y gallai cwmni arall brynu'r cwmni dim ond er mwyn cael yr enillion o'r ôl-gatalog, ac roedd Dafydd Iwan yn ymwybodol o'r pryder.
Dywedodd: "Dyw hi ddim yn gyfrinach y gallen ni werthu'r cwmni fory nesaf i gwmni o Loegr, ond fydden nhw ddim am barhau hefo Sain fel y mae o, jyst defnyddio'r ôl-gatalog a'r hawlfreintiau ac yn y blaen.
"Felly ry'n ni'n chwilio am brynwr, neu rywun i ddod i mewn i'r cwmni sydd â diddordeb datblygu'r busnes i'r dyfodol."