Cofio Cymry'r Gemau Paralympaidd
- Cyhoeddwyd
O'r Gemau Olympaidd ymlaen ar y Gemau Paralympaidd.
Does bosib y byddai'r gemau yma yn llwyddo i greu'r fath gyffro? Buan y cafodd hynny ei brofi yn anghywir!
Yn 2008, cipiodd y Cymry 14 o fedalau. Y nod oedd efelychu neu wella ar hynny yn Llundain, ac yn wir cyrraedd y cyfanswm hynny yn union oedd hanes y tîm yn Llundain.
Y gwahaniaeth mawr serch hynny oedd i griw 2008 ennill 10 aur, o'i gymharu â'r tair a gafwyd yn Llundain.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cydnabod fod hynny'n siom, ond hefyd yn dathlu llwyddiannau'r rheini a ddaeth i'r brig.
'Ei fywyd ar ben'
Ar ôl torri ei gefn mewn damwain paragleidio, Mark Colbourne heb os oedd un o sêr y Gemau Paralympaidd.
Gan godi'r tô yn y Veledrome wrth gipio'r aur a'r arian, gan ychwanegu medal arian arall yn y ras ffordd, anodd credu mai dyma oedd y dyn fu'n gorwedd mewn ysbyty dair blynedd ynghynt yn credu o ddifrif bod ei fywyd ar ben.
Rhaid cyfaddef i mi golli eiliad euraidd Mark Colbourne, ond fe fydd gweld Aled Sion Davies yn rhedeg o gwmpas y Stadiwm, cyn cael cusan gan ei fam o flaen 80,000 o bobl yn aros yn y cof am byth.
Pwy oedd wedi clywed am enw'r gŵr direidus yma o Ben-y-bont cyn iddo daflu'r ddisgen ar y prynhawn hyfryd hwnnw yn nwyrain Llundain?
'Braint'
Roedd ei enw ar wefusau pawb wrth iddyn nhw lifo o'r stadiwm yn dilyn ei lwyddiant, felly hefyd pan gipiodd Josie Pearson yr aur ddyddiau yn ddiweddarach.
Braint oedd cael tystio i'r fath olygfeydd.
Braint hefyd oedd cael bod yng nghwmni'r athletwyr a'u holi'n ddi-ddiwedd am eu llwyddiant.
Braint oedd bod yng nghwmni teuluoedd yr athletwyr a theimlo'u balchder hwythau.
I 68 o athletwyr o Gymry fu yn Llundain dros yr haf, anodd mae'n siwr fydd curo 2012.
Mae hynny yn wir hefyd i'r miloedd eraill fu'n rhan o'r cyffro, yn ohebwyr, yn deuluoedd, yn hyfforddwyr, ac yn gefnogwyr.
Fe fydd 2012 yn aros yn y cof am amser maith.
Ymlaen tua Rio!
Darllenwch am atgofion Iwan Griffiths o'r Gemau Olympaidd yma.