Cymeradwyo cynllun ynni trydan dŵr Clwb Rygbi Nant Conwy

Chwaraewyr yn ymarfer ar gae Clwb Rygbi Nant Conwy. Mae adeilad y clwb yn y cefndir a rhan o'r coetir sydd wrth y safle.
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y cynllun yn defnyddio dŵr o ddyfrffos yn y coetir cyfagos

  • Cyhoeddwyd

Mae clwb rygbi yn y gogledd wedi cael hawl i ddatblygu cynllun ynni trydan dŵr ei hun.

Fe gafodd caniatâd ei roi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gais gan Glwb Rygbi Nant Conwy, sy'n chwarae ar gae Pant Carw rhwng Llanrwst a Threfriw.

Fe fydd yn defnyddio dŵr dyfrffos Nant Llyn Glan Gors, sydd mewn coetir ar ochr arall ffordd y B5106.

Mae disgwyl i'r cynllun ddarparu 160,000 cilowat o drydan adnewyddadwy bob blwyddyn, gan arbed 56 tunnell o allyriadau CO2, a galluogi'r clwb i wneud ychydig o elw.

'Galluogi'r clwb i fod yn fwy cynaliadwy'

Fe fydd 420 metr o bibellau, y rhan fwyaf wedi eu claddu, yn arwain at dŷ tyrbin cladin pren.

Bydd cebl trydanol wedyn yn cysylltu o hwnnw i'r clwb ei hun.

Dywed y datganiad cynllunio: "Fe fydd y cynllun trydan dŵr yn galluogi'r clwb i fod yn fwy cynaliadwy trwy leihau costau ynni."

Mae'r cynllun wedi cael cefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru - perchennog y coetir, sy'n rhan o Goedwig Gwydir - a'r ffermwr sy'n berchen ar dir cyfagos.

Mynedfa Clwb Rygbi Nant Conwy, gyda dyluniad pen buwch ar y giatiau du o flaen yr adeiladFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clwb eisoes wedi gosod paneli solar i leihau costau ynni, ac mae disgwyl i'r cynllun trydan dŵr arwain at wneud ychydig o elw yn y dyfodol

Dywedodd y clwb yn nogfennau'r cais: "Fe fydd cynhyrchu trydan yn lleol hefyd yn creu incwm yn yr economi leol yn unol â pholisi a thargedau Llywodraeth Cymru.

"Mae contractwyr lleol wedi cael eu defnyddio yn y cymal datblygu ac yn cael eu defnyddio o ran adeiladu a darparu deunyddiau."

Fe gafodd Clwb Rygbi Nant Conwy ei sefydlu yn 1980 ac mae'n chwarae yng Nghynghrair 1 y Gogledd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.