Capel Cymraeg yn cau yn Los Angeles
- Cyhoeddwyd
Mae capel Cymraeg yn Los Angeles wedi gorfod cau ar ôl 120 o flynyddoedd oherwydd diffyg cefnogaeth.
Ar ei anterth roedd Capel y Presbyteriaid yn denu cynulleidfa o 300, gyda gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg.
Ond dros y blynyddoedd bu dirywiad ac erbyn hyn dim ond tua 10 o addolwyr sy'n mynychu yn gyson.
Cafodd y gwasanaeth olaf ei gynnal yn gynharach ym mis Rhagfyr ond dywed y ffyddloniaid y byddan nhw'n parhau i gael defnyddio'r adeilad, gan ei fod wedi cael ei brynu gan grŵp cymunedol.
"Bu'r capel yn ffynnu dros nifer o flynyddoedd, ond yn ddiweddar mae'r nifer sy'n mynychu wedi gostwng," meddai Frank Williams, cadeirydd Ymddiriedolwyr y Capel.
Hen Synagog
Dywedodd nad oedd yr aelodau, sy'n heneiddio, mor barod i deithio pellteroedd maith i fynd i'r eglwys, gan ychwanegu fod teuluoedd eraill o Gymru wedi gadael yr ardal.
Cafodd yr eglwys ei sefydlu yn 1888 gan y Parchedig David Hughes o Lanuwchllyn, Gwynedd.
Yn wreiddiol fe sefydlodd ddau gapel, un ar gyfer siaradwyr Cymraeg a'r llall ar gyfer rhai oedd am addoli yn Saesneg.
Mae'n debyg i'r ail gapel ddod i ben sawl blwyddyn yn ôl, ond fe ddatblygodd yr un Cymraeg - gan arwain at sefydlu Capel y Presbyteriaid.
Symudodd y capel i adeilad mwy yn 1926 wrth i'r aelodaeth dyfu.
Fe brynwyd synagog Iddewig fel cartref newydd.
Ymddeol
Erbyn hyn mae'r adeilad yn adeilad cofrestredig.
Dywedodd Dafydd Evans, un o'r selogion sy'n byw yn Manhattan Beach, fod gan yr adeilad nifer o nodweddon gwreiddiol.
Wyresau Mr Evans oedd yr olaf i gael eu bedyddio yn y capel.
Dywedodd ef fod yn rhaid cau yn y diwedd "gan fod llai na 10 yn mynychu bob Sul, ac rydym i gyd yn heneiddio".
Fe wnaeth y gweinidog llaw amser olaf ymddeol yn 1964.
"Be' sydd ar goll yw Cymry ifanc sy'n dod i fyw i'r Unol Daleithiau," meddai Mr Evans, wnaeth ymfudo o Gymru yn 1964.
"Maen nhw'n dweud nad oedden nhw'n mynd i'r capel yng Nghymru ac nad oedden nhw am ddechrau nawr."