Dymchwel Yr Heulfan i wella delwedd Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Heulfan Y Rhyl
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer yr ymwelwyr â'r ganolfan yn gostwng

Gallai un o atyniadau twristaidd mwyaf adnabyddus Sir Ddinbych gael ei ddymchwel fel rhan o waith ailddatblygu gwerth miliynau o bunnoedd o bromenâd Y Rhyl.

Fe allai pwll nofio 30 oed canolfan hamdden y dref fynd hefyd.

O ganlyniad i hynny a dymchwel Canolfan Heulfan Y Rhyl fe fydd canolfan newydd gwerth £10 miliwn yn cael ei godi ar y promenâd.

Mae'r rhain yn rhai o'r cynigion fydd yn cael eu trafod gan gynghorwyr sir ddydd Mawrth nesaf.

Maen nhw'n rhan o gynlluniau adfywio ehangach ar gyfer y dref.

Cafodd yr Heulfan ei hagor yn 1980.

Caiff ei weld fel atyniad sydd wedi dod at ddiwedd ei hoes a dydi hi ddim yn cyrraedd y safon sy'n cael ei fynnu gan gwsmeriaid.

Petai'r Heulfan yn cael ei ddymchwel bydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer adnewyddu Theatr y Pafiliwn sydd ynghlwm wrtho ar hyn o bryd, gyda mynedfa a ffasâd newydd yn cael eu creu.

'Methiannau'

Cyfanswm cost yr holl brosiectau ar lan y môr fydd rhwng £15 miliwn a £18 miliwn.

Mae'r cyngor wedi cysylltu gyda chwmni Alliance Leisure Services Ltd i lunio ystod o opsiynau gan gynnwys creu canolfan dwr drws nesaf i'r pwll padlo ar Parade y Gorllewin.

Dyma'r cynllun sy'n cael ei ffafrio.

Y gobaith yw y bydd pwll nofio 25-metr yn y ganolfan newydd, pwll i ddechreuwyr a phwll hwyl; canolfan ffitrwydd a chyfleuster dringo.

Mewn adroddiad ar y cyd i'r cynghorwyr dywedodd Tom Booty, rheolwr rhaglen Symud Ymlaen Y Rhyl, a Jamie Groves, Pennaeth Marchnata, Cyfathrebu a Hamdden, bod cwmni Clwyd Leisure Ltd, sy'n rhedeg yr Heulfan ac atyniadau eraill, wedi "methu yn gyson i gynnal yr Heulfan at lefel dderbyniol".

"Nid yn unig mae'r safon (yn yr Heulfan) yn wael iawn, ond mae pryderon mawr am gyflwr yr adeilad, ac yn arbennig y cyfnod sy'n weddill o ran y strwythur," meddai.

"Mae hyn yn cael effaith andwyol ar y profiad i ymwelwyr ac mae nifer sy'n mynychu yn gostwng.

"Gallai creu canolfan hamdden blaenllaw newydd ar gyfer ymwelwyr a'r gymuned leol chwarae rhan hanfodol yn adfywiad cyffredinol y dref."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol