Jessops: Pum cangen i gau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Cyhoeddodd y gweinyddwyr y bydd pob un o siopau Jessops ym Mhrydain yn cau.

Mae pump o'r 187 cangen y siop ffotograffiaeth yng Nghymru.

Fe ddaeth hi i'r amlwg ddydd Mercher fod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae'r gweinyddwyr, PricewaterhouseCoopers yn dweud y bydd 1,370 o swyddi'n diflannu, a rhagor o ddiswyddiadau'n debygol yn y pencadlys yng Nghaerlŷr.

Dywed y gweinyddwyr y byddai'r broses o gau'r siopau yn dechrau ar ôl i'r siopau gau ddiwedd y dydd ddydd Gwener.

Mae gan y cwmni ganghennau yn Aberystwyth, Caerdydd, Llandudno, Abertawe a Wrecsam.

Mae'r cwmni wedi dioddef o ganlyniad i gystadleuaeth gan gwmnïau ar-lein a'r cynnydd o ran gwerthiant camerâu mewn ffonau deallus yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol