Ymgyrch i ddenu ymwelwyr
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch newydd yn defnyddio cynnyrch lleol er mwyn creu "nefoedd o fwyd" yng ngogledd Cymru i ddenu ymwelwyr.
Mae'n rhan o ymgyrch gan benaethiaid twristiaeth i wneud yr ardal yn un o'r pum cyrchfan mwyaf poblogaidd yn y DU i dwristiaid.
Bydd cynnyrch rhanbarthol yn cael ei arddangos ar wefan newydd Bwyd Gogledd Cymru sy'n cael ei lansio ddydd Mercher.
Y nod yw rhoi blas o'r ardal i dwristiaid i godi awydd arnyn nhw i ddychwelyd.
Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru sy'n gyfrifol am yr ymgyrch.
Dywedodd y mudiad bod Cig Oen Cymru yn gynnyrch sy'n adnabyddus drwy'r byd, ond bod yr ymgyrch yn fwy na dim ond cig oen, cig eidion a phorc.
Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio yng Nghanolfan Fwyd Cymru ym Modnant, Dyffryn Conwy, ac fe fydd pobyddion, bragwyr, gwneuthurwyr pate, caws a chyffug, a hyd yn oed gwerthwr cynnyrch garlleg yn bresennol.
Dywedodd Carole Startin, swyddog marchnata a digwyddiadau gyda Phartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, mai nod Bwyd Gogledd Cymru oedd dod ag ystod eang o gynhyrchwyr at ei gilydd o dan un ymbarél.
"Mae gennym fwyd a diod gwych sy'n cael ei gynhyrchu'n lleol," meddai.
"Ynghyd â'n cigoedd ardderchog, mae gennym lysiau ffantastig a bara nefolaidd, gwirodydd a chwrw coeth - maen nhw'n rhan o flas godidog gogledd Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012