Cyhuddo dyn o ddynladdiad gweithwyr Y Gleision

  • Cyhoeddwyd
Bu farw Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell yn y drychinebFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell yn y trychineb

Mae dyn 57 oed wedi cael ei gyhuddo o bedwar cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod garw wedi marwolaeth pedwar o ddynion yng nglofa'r Gleision ger Pontardawe yn 2011.

Heddlu De Cymru wnaeth gyhoeddi'r cyhuddiadau troseddol yn erbyn Malcolm Fyfield ar ôl ymchwiliad i'r marwolaethau ar Fedi 15, 2011.

Fe fydd Mr Fyfield, cyn-reolwr y pwll, yn ymddangos o flaen ynadon Castell-nedd ar Chwefror 1.

Mae'r cwmni sy'n berchen ar y lofa, MNS Mining Ltd, wedi cael gŵys ar bedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol ac fe fyddan nhw hefyd yn ymddangos yn y llys ar yr un diwrnod.

Bu farw Philip Hill, 44 oed, Charles Breslin, 62 oed, David Powell, 50 oed a Garry Jenkins, 39 oed, ar ôl cael eu caethiwo yn y pwll.

Cafodd eu teuluoedd wybod am y datblygiad yn gynharach ddydd Gwener.

"Ar Fedi 15 2011 fe ddigwyddodd trychineb ym Mhwll Y Gleision, yng Nghwm Tawe, arweiniodd at farwolaeth pedwar o'r gweithwyr," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Dorian Lloyd o Heddlu De Cymru sy'n arwain yr ymchwiliad.

Cefnogaeth cymuned

"Mae ymchwiliad sylweddol wedi ei gynnal gan yr heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

"Bwriad yr ymchwiliad oedd sefydlu dealltwriaeth lawn o'r digwyddiadau arweiniodd at golled o'r fath.

"Wedi trafodaeth gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae rheolwr y pwll, Malcolm Fyfield, wedi cael ei gyhuddo o bedwar cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod garw.

"Yn ychwanegol mae 'na erlyniad o bedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol yn erbyn perchnogion y pwll, MNS Mining Ltd, yn mynd rhagddo.

"Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i holl aelodau'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth drwy gydol y broses.

"Yn benodol, hoffwn ddiolch i deuluoedd y pedwar am eu hamynedd a dewrder gan ychwanegu bod eu preifatrwydd i'w barchu ar adeg anodd."

'Tystiolaeth arbenigol'

Dywedodd Malcolm McHaffie, Dirprwy Bennaeth Troseddau Arbennig ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Collodd Charles Breslin, Philip Hill, Garry Jenkins a David Powell oll eu bywydau yng Nghilybebyll, yng Nghwm Tawe, pan gafodd y pwll lle roedden nhw'n gweithio ei amlyncu gan ruthr enfawr o ddŵr.

"Amcangyfrifir bod dros hanner miliwn o alwyni o ddŵr wedi llifo i mewn i'r rhan o'r pwll lle'r oedd y dynion yn gweithio mewn cyfnod o tua thri munud.

"Mae'r CPS bellach wedi ystyried yn ofalus yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn yr achos hwn, gan gynnwys tystiolaeth arbenigol fanwl.

"Rydym wedi dod i'r casgliad fod yna ddigon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn a'i fod er budd y cyhoedd i gyhuddo rheolwr y pwll Malcolm Fyfield gyda phedwar cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeuluster garw.

"Cyflogwyd Mr Fyfield fel rheolwr y pwll gan MNS Mining Ltd ac fe honnir ei fod wedi achosi marwolaeth pedwar o lowyr gan gloddio i mewn i hen weithfeydd mwyn oedd dan ddŵr yn groes i reoliadau iechyd a diogelwch.

"Mae'r erlyniad yn honni ei fod yn esgeulus, wrth wneud hynny.

"Mae MNS Mining Limited hefyd wedi cael eu cyhuddo o bedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

"Mae'r erlyniad yn honni fod y ffordd roedd eu gweithgareddau yn cael eu rheoli neu eu trefnu gan ei uwch reolwyr, sef Malcolm Fyfield, achosodd y cwmni farwolaethau'r glowyr drwy fethu â sicrhau fod system ddiogel o weithio yn ei le.

"Honnir fod y methiant hwn yn gyfystyr â thorri dyletswydd gofal oedd yn ddyledus gan y cwmni i bob un o'r pedwar gweithiwr yn y pwll."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol