Damwain Gleision: Heddlu'n arestio dyn 55 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De wedi arestio dyn 55 oed mewn cysylltiad â damwain pwll glo'r Gleision ger Pontardawe.

Cafodd y dyn ei arestio yng Ngwm Tawe fore Mawrth ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd.

Mae Malcolm Fyfield, rheolwr y pwll, yn cael ei holi yng Ngorsaf Heddlu Port Talbot.

Cafodd ei anafu yn y ddamwain ac aed ag ef i Ysbyty Treforys cyn cael ei ryddhau yn ddiweddar.

Digwyddodd y ddamwain ar Fedi 15.

Bu farw pedwar o lowyr - Phillip Hill, 45 oed o Gastell-nedd, a Charles Breslin, 62 oed, David Powell, 50 oed, a Garry Jenkins, 39 oed, y tri o Gwm Tawe, yn y ddamwain ar ôl i ddŵr lifo i'r pwll.

Mae teuluoedd y pedwar wedi cael gwybod fod dyn wedi cael ei arestio.

Yr heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch sy'n ymchwilio i'r ddamwain.

'Ymgynghori'

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod gwaith arolygu'r safle ar ben a bod y pwll dan reolaeth yr Awdurdod Glo.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau i ymchwilio

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Dorian Lloyd sy'n arwain yr ymchwiliad: "Mae'r arestio wedi ymgynghori rhwng Heddlu'r De, y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn â'r dystiolaeth sydd wedi dod i law hyd yn hyn.

"Rydym yn parhau i gydweithio'n agos gyda theuluoedd y glowyr fu farw a dymunaf fynegi fy ngwerthfawrogiad diffuant i'r cymunedau y mae'r digwyddiad wedi effeithio arnyn nhw.

"Rwy'n diolch i'r cymunedau am eu cefnogaeth a'u hamynedd.

"Fe fyddwn yn gwneud popeth posib er mwyn cael gwybod sut y collodd y pedwar eu bywydau."