Trafod dyfodol ffatri brosesu cig
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi trefnu cyfarfod arbennig i drafod dyfodol ffatri Welsh Country Foods ar yr ynys.
Mae hyd at 350 o swyddi dan fygythiad wedi i'r perchnogion, cwmni Vion, gyhoeddi yn gynharach yn y mis eu bod wedi colli cytundeb gan gwsmer allweddol, sef archfarchnad Asda.
Bydd y cyfarfod yn cynnwys cynrychiolwyr o Welsh Country Foods a Vion, ac mae disgwyl i gynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, Gyrfa Cymru, undeb Unite a Choleg Menai hefyd i fod yn bresennol.
Yn eu cyhoeddiad ar Ionawr 11, dywedodd Vion fod cyflenwi Asda yn werth tua 50% o'r busnes yn ffatri'r Gaerwen.
Cyhoeddodd y cwmni ddechrau proses ymgynghori 90 diwrnod gydag undebau a gweithwyr yn y ffatri.
Ers hynny mae Vion ac Asda wedi bod yn cyfarfod i drafod dyfodol y ffatri.
Dywedodd Asda mai nid ar chwarae bach y gwnaethon nhw'n penderfyniad i ddirwyn eu cytundeb i ben, ond eu bod yn ymateb i anghenion y farchnad.
Mae Undeb Unite wedi addo gweithio'n ddiflino i geisio creu cynllun busnes newydd allai achub y swyddi sydd o dan fygythiad.
Fe fydd y cyfarfod ddydd Llun yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeëdig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012