'Gobaith' am ddyfodol lladd-dy
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd cyngor yn dweud ei fod yn "ffyddiog" fod modd achub swyddi mewn lladd-dy yn Y Gaerwen ar Ynys Môn wedi i gwmni golli eu prif gwsmeriaid.
Roedd cyfarfod arbennig yn trafod dyfodol ffatri Welsh Country Foods.
Mae hyd at 350 o swyddi dan fygythiad wedi i'r perchnogion, cwmni Vion o'r Iseldiroedd, gyhoeddi yn gynharach yn y mis eu bod wedi colli cytundeb cwsmer allweddol, archfarchnad Asda.
Cafodd gweithgor arbennig ei sefydlu yn cynnwys cynrychiolwyr y cyngor, Welsh Country Foods, undebau, Gyrfa Cymru a Choleg Menai.
Wedi'r cyfarfod yn Llangefni dywedodd y cyngor fod nifer o bartneriaid wedi addo cydweithio i geisio sicrhau dyfodol y safle.
'Adeiladol'
Dywedodd Cynghorydd Bryan Owen: "Roedd yn gyfarfod adeiladol dros ben, drwy roi gwell syniad i bartneriaid o'r sefyllfa sydd yn wybebu Welsh Country Foods a chyfle i fynegi barn a thrafod y gwahanol ffyrdd y gellir cefnogi'r gwaith a'i staff.
"Gydag Asda ar hyn o bryd yn adolygu ei benderfyniad, a Llywodraeth Cymru yn cefnogi, rydym yn obeithiol y gellir dod o hyd i ffordd o arbed Welsh Country Foods.
"Y gobaith ydy y byddan ni'n medru mynd yn ôl at Asda ac y byddan ni'n medru eu cael nhw i newid eu meddyliau ac ella bydd y cwmni'n cael aildendro am y cytundeb.
Ychwanegodd: "Y ddealltwriaeth ydy bod 'na rhywun â diddordeb mewn prynu'r lle ond mae hynny'n cymryd amser.
"Wrth gwrs, am fod Asda wedi gwneud y penderfyniad yma rwan, faint o ergyd ydy hynny i bobl sydd eisiau prynu'r cwmni?
"Mae'r cynnyrch yn y Gaerwen gystal ag unrhyw gig gewch chi rywle yn y byd a dyna sy'n mynd i achub y lladd-dy yn y diwedd yn ogystal â'r gweithwyr sy'n gweithio yno."
Proses ymgynghori
Dros y dyddiau nesaf, bydd gwahanol gyrff yn yn codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd am effeithiau'r penderfyniad.
Welsh Country Foods yw'r cyfleuster prosesu mwyaf yng ngogledd Cymru ar gyfer cig oen o Gymru, gan ddelio gyda 640,000 o ŵyn bob blwyddyn.
Yn eu cyhoeddiad ar Ionawr 11, dywedodd Vion fod cyflenwi Asda yn werth tua 50% o'r busnes yn ffatri'r Gaerwen.
Cyhoeddodd y cwmni ddechrau proses ymgynghori 90 diwrnod gydag undebau a gweithwyr yn y ffatri.
Ers hynny mae Vion ac Asda wedi bod yn cyfarfod i drafod dyfodol y ffatri.
Dywedodd Asda mai nad ar chwarae bach y gwnaethon nhw'n penderfyniad i ddirwyn eu cytundeb i ben, ond eu bod yn ymateb i anghenion y farchnad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012