Y fyddin: 5,300 yn cael eu diswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau y bydd 5,300 o aelodau'r fyddin yn colli eu swyddi.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o gyhoeddiadau am swyddi a'r bwriad yw gostwng nifer yr aelodau o 102,000 i 82,000 erbyn 2017.
Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd faint o'r diswyddiadau fydd yn orfodol.
Dyma'r trydydd cyhoeddiad ynghylch diswyddiadau yn y lluoedd arfog ers cyhoeddi'r adolygiad amddiffyn strategol yn 2010.
Yn Awst a Medi 2011 cyhoeddwyd 2,800 o ddiswyddiadau, gyda 4,000 o ddiswyddiadau arall yn cael eu cyhoeddi ym Mehefin y llynedd.
Ar y ddau achlysur roedd mwyafrif y rhai a effeithiwyd wedi gwirfoddoli i adael.
Nid oedd cyfeiriad at y llynges na'r awyrlu yn y cyhoeddiad ddydd Mawrth.
Wnaeth y cyhoeddiad ddim cynnwys milwyr sydd yn Afghanistan na chwaith filwyr sydd ar fin cael eu hanfon yno.
'Mwy o filwyr'
Yn siarad cyn y cyhoeddiad ar y Post Cyntaf, dywedodd yr Uwchgapten Alan Davies: "Rhaid i ni weld newidiadau mewn polisi tramor cyn newid strwythur y lluoedd arfog, a dydyn ni ddim wedi gweld hynny tan wythnos diwethaf pan welon ni rywbeth newydd, sef y bygythiad o Ogledd Affrica, yn yr ardal ble roedd Ffrainc yn rheoli flynyddoedd yn ôl.
"Rydyn ni nawr angen mwy o filwyr, nid lluoedd arfog, mwy o filwyr, i ymateb i'r bygythiad yna, nid torri nifer y milwyr fel mae'r llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi."
Dywedodd fod newidiadau o ran technoleg, er enghraifft y defnydd o awyrennau di-beilot, yn help.
"Ond os ydych chi'n moyn ennill brwydr neu ymateb i derfysgaeth fel y gwelon ni yn Algeria, yr unig bobl sy'n gallu neud hynny yw milwyr ar y tir.
"Dyn ni ddim yn mynd i fod yn ymateb i'r math yna o fygythiad os ydyn ni'n torri'r nifer."
'Ddim yn gwybod'
Dywedodd Carol Davies o'r Gaerwen, Ynys Môn, sy'n fam i un ar ei ffordd adref o Afghanistan: "Dwi ddim yn gwybod ar hyn o bryd, mwy nac ydy'r mab, a fydd hyn effeithio arno fo ... fydd yr hogia ddim yn gwybod mae'n siwr tan y byddan nhw wedi dwad adre.
"Fel pob mam, dwi'n poeni am fy mhlant, dyfodol y teulu bach, dyfodol y soldiwrs 'ma i gyd.
"Beth sy'n mynd i ddigwydd iddyn nhw pan maen nhw'n dod allan, ble maen nhw'n mynd i fynd, beth maen nhw'n mynd i wneud? Ac mae'r wlad mewn tipyn o stad ar hyn o bryd, efo colli gwaith, siopau'n cau ...
"Gobeithio os collith o ei waith ella fydd 'na swydd arall allan yna iddo fo yn rhywle, ella bydd hynny'n golygu emigratio, fedrwch chi ddim deud, tan eich bod chi'n gwybod yn bendant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013