Mwy o ganlyniadau Cyfrifiad 2011
- Cyhoeddwyd
Bydd mwy o ganlyniadau manwl yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher o Gyfrifiad 2011.
Ym mis Rhagfyr fe ddaeth gwybodaeth i'r amlwg am ystadegau'n ymwneud â phynciau fel nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, crefyddau'r boblogaeth, hunaniaeth ac ethnigrwydd, cymwysterau, a faint o'r boblogaeth sy'n gofalu am eraill.
Digon tebyg fydd pynciau'r wybodaeth fydd yn cael ei chyhoeddi ddydd Mercher, ond y tro hwn ar lefel llawer mwy lleol.
Yn hytrach na chael gwybod faint sy'n siarad Cymraeg yng Ngheredigion a Chaerdydd, er enghraifft, fe fyddwn yn cael gwybod faint sy'n siarad Cymraeg yn Aberaeron a Phontcanna.
Fe fydd y wybodaeth ar gael ar lefel wardiau'r awdurdodau lleol ynghyd ag ar lefel etholaethau seneddol neu gynghorau plwy'.
Dangosodd Cyfrifiad 2011 fod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng 20,000 er 2001.
Roedd yna ostyngiadau sylweddol yn yr ardaloedd Cymraeg traddodiadol wrth i'r cwymp mwya' fod yn Sir Gaerfyrddin.
Mae darogan y bydd ffigyrau dydd Mercher yn dangos fod gostyngiad wedi bod yn nifer y wardiau yng Nghymru sydd a dros 70% o siaradwyr Cymraeg.
Dywed Toni Schiavone llefarydd Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith ar raglen y Post Cynta ei fod o'n poeni fod nifer cymunedau o'r fath wedi gostwng i hyd at 12 o'i gymharu â 70 ugain mlynedd yn ôl.
"Mae angen pob ymdrech arnom i sicrhau ein bod yn parhau i gynnal ein cymunedau Cymraeg eu hiaith.
"Ar yr un pryd mae angen bod yn gefnogol i gymunedau sy'n ddatblygu, lle mae'r Gymraeg yn iaith leafrifol ond mae yna gobaith at y dyfodol. "
Ychwanegodd ei fod am i swyddogion cynllunio y cynghorau sir roi mwy o sylw i effaith codi tai newydd ar yr iaith.
Dim ond yng Ngwynedd ac Ynys Môn y mae dros hanner y boblogaeth yn siarad yr iaith bellach.
Yn Sir Gaerfyrddin 43.9% sy'n gallu siarad Cymraeg yn 2011 (50.3% yn 2001).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012