Pryder am ddyfodol ysgol farchogaeth
- Cyhoeddwyd
Mae staff ysgol farchogaeth yng Nghaerdydd wedi clywed y bydd y safle'n cau o fewn y tri mis nesa'.
Cafodd 30 aelod o staff eu galw i gyfarfod brynhawn dydd Mercher ac fe glywon nhw y bydd y safle 35 erw ym Mhontcanna yn cau erbyn 1 Ebrill eleni.
Mae gan Ysgol Farchogaeth Caerdydd 50 o geffylau a dywedodd un aelod o staff bod 'na bryder y byddai'n rhaid difa nifer ohonynt gan y byddai'n amhosib dod o hyd i gartrefi newydd iddynt.
Cafodd yr ysgol ei hagor yn 1970 ac mae wedi bod yn darparu gwersi i filoedd o bobl leol.
Mae'r ysgol yn arbenigo mewn dysgu plant ac oedolion sydd ag anableddau.
'Dagrau'
Yn ôl un aelod o staff sydd wedi gweithio yno ers dros saith mlynedd, mae'r gweithwyr i gyd yn hynod siomedig.
"Roedd pobl yn eu dagrau, roedd yn anodd iawn," meddai.
"Plant ysgol yw ein prif gwsmeriaid. Mae gennym hefyd lawer o bobl anabl. Rydym yn eu dysgu bedwar neu bum niwrnod yr wythnos - maent wrth eu boddau, ac yn aml yn ei chael hi'n haws cyfathrebu gyda'r anifeiliaid.
"Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd i'r ceffylau. Rwy'n credu y bydd yn rhaid eu difa gan y bydd hi'n anodd dod o hyd i gartrefi iddynt.
"Rwy'n cadw fy ngheffyl fy hun yma, stalwyn, ac rwy'n poeni gan nad yw lleoedd eraill yn fodlon cadw stalwyn."
Gwrthododd Cyngor Caerdydd wneud sylw ar y datblygiad, ond dywedodd llefarydd ar eu rhan fod yr honiadau yn "ddi-sail".
"Does dim byd wedi'i ddatgelu a bydd 'na ddatganiad cyllid fel rhan o gyfarfod y cyngor nos Iau."