Menter iaith yn dod i ben
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal ym Mro Morgannwg y llynedd
Mae un o fentrau iaith Cymru yn dod i ben ar ôl i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i'w hariannu.
Lai na chwe mis ers i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal ym Mro Morgannwg, fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal cyn bo hir i ddirwyn Menter y Fro i ben.
Mae Menter y Fro wedi bod mewn bodolaeth ers dros ddegawd.
Cafodd ei sefydlu i hyrwyddo'r Gymraeg ym Mro Morgannwg, ac mae'n un o dri ar hugain o sefydliadau tebyg ledled Cymru.
Dros y blynyddoedd mae wedi bod yn derbyn cefnogaeth ariannol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Gyda'r bwrdd wedi dod i ben, Llywodraeth Cymru sydd bellach yn gyfrifol am ddosbarthu grantiau i gyrff sy'n hybu'r iaith, ac ni fydd Menter y Fro yn derbyn arian yn y flwyddyn ariannol nesa'.
O'r herwydd, fe fydd y fenter yn dod i ben.
'Pryderon'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cymerwyd y penderfyniad i ddiweddu ariannu ar gyfer Menter y Fro yn dilyn pryderon am allu'r Fenter i ddarparu gwasanaethau Menter Iaith yn yr ardal.
"Rydym wedi clustnodi £30,000 ar gyfer ardal Bro Morgannwg er mwyn datblygu darpariaeth newydd a fydd yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd, plant, pobl ifanc, a dysgwyr yr ardal i ddefnyddio'u Cymraeg.
"Byddwn yn gweithio'n agos gyda Mentrau Iaith Cymru i ddatblygu'r ddarpariaeth newydd hon."
Mae'r newyddion bod Menter y Fro yn dod i ben yn "siom" i bennaeth un o ysgolion cynradd Cymraeg y Barri, Rhydian Lloyd o Ysgol Gwaun y Nant, ond yn y Bont-faen, dywedodd Catherine Watkin Thomas, un o hoelion wyth Merched y Wawr yn yr ardal, ei bod hi'n credu y bydd gweithgareddau Cymraeg yn mynd yn eu blaen heb Fenter y Fro.
Fe fydd cyfarfod cyffredinol arbennig i aelodau Menter y Fro yn cael ei gynnal yn y Barri Nos Lun, Chwefror 11, lle bydd y fenter yn dod i ben yn swyddogol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd11 Awst 2012