Super Furry Animals i fynd ar daith yn haf 2026

Super Furry AnimalsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y tro cyntaf i'r Super Furry Animals fynd ar daith ers 2016

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Super Furry Animals wedi cyhoeddi eu bod yn ailffurfio ar gyfer cyfres o gigs yn y DU ac Iwerddon y flwyddyn nesaf.

Fe fydd taith Supacabra yn dechrau yn Nulyn ar 6 Mai ac yn cynnwys perfformiadau yn Llandudno, Glasgow, Manceinion, Llundain a Chaerdydd.

Roedd y 'Super Furries' wedi rhannu negeseuon ar wefannau cymdeithasol yn awgrymu y byddai cyhoeddiad ar 29 Medi, tra bod posteri awgrymog wedi ymddangos yng Nghaerdydd.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r band chwarae cyfres o gigs ers bron i ddegawd.

Gruff Rhys Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gruff Rhys yw prif leisydd y Super Furry Animals

Ers ffurfio yn y 1990au mae'r band wedi rhyddhau naw albwm - gyda'r olaf, Dark Days/Light Years, yn cael ei ryddhau yn 2009.

Mae'r aelodau wedi parhau i greu cerddoriaeth ers hynny, gyda Gruff Rhys yn rhyddhau sawl albwm unigol a'r aelodau eraill yn chwarae gyda grwpiau sy'n cynnwys Das Koolies, Gulp a The Earth.

Fe fydd Getdown Services yn cefnogi'r Super Furry Animals ar y daith, gyda Honeyglaze yn chwarae yn Llundain a'r Cymry Melin Melyn yn perfformio yng Nghaerdydd,

Mae disgwyl y bydd tocynnau ar gyfer y daith yn mynd ar werth ddydd Gwener.

Y daith yn llawn

Dydd Mercher 6 Mai 2026: Dublin, 3Olympia Theatre

Dydd Gwener 8 Mai 2026: Glasgow, The Barrowlands

Dydd Iau 14 Mai 2026: Llandudno, Venue Cymru

Dydd Sadwrn 16 Mai 2026: Cardiff, Utilita Arena

Dydd Iau 21 Mai 2026: Manchester, O2 Apollo

Dydd Gwener 22 Ma 2026: London, O2 Brixton Academy

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.