Tafwyl: 'Cynsail peryglus'?

  • Cyhoeddwyd
Castell CaerdyddFfynhonnell y llun, Menter Caerdydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n rhoi grant o £20,000 i Tafwyl.

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud bod y penderfyniad yn gosod "cynsail peryglus".

Roedd yr ŵyl flynyddol o dan fygythiad wedi i Gyngor Caerdydd gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf eu bod yn ystyried torri'r cymhorthdal er mwyn gwneud arbedion.

Roedd y cyngor wedi dweud bod rhaid ystyried toriadau o'r fath gan fod rhaid gwneud arbedion o £22 miliwn.

Ddydd Mercher, cyhoeddodd Leighton Andrews AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg, ei fod am gamu i'r adwy.

'Achos unigryw'

"Yn dilyn y pryderon bod cynigion cyllideb Cyngor Caerdydd yn cynnwys cynlluniau i dorri cyllid Tafwyl, dwi wedi neilltuo £20,000 o gyllid grant ar gyfer yr ŵyl," meddai.

"Mae hwn yn achos unigryw. Mae'r ŵyl ddiwylliannol bwysig hon wedi ehangu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers ei lansio yn 2006, ac mae'n hynod werthfawr i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae posibilrwydd y bydd yn ddigwyddiad cenedlaethol yn ein prifddinas.

"Dwi'n sylweddoli bod trafodaethau Caerdydd ynghylch y gyllideb yn parhau.

"Ond dwi wedi ymateb nawr i wneud yn siŵr nad oes cyfnod hir o ansicrwydd i drefnwyr yr Ŵyl, neu i'r rhai hynny y tu allan i'r brifddinas a oedd yn bwriadu teithio i'r Tafwyl.

"Roedd 10% o'r rhai a oedd yn bresennol y llynedd o'r tu allan i Gaerdydd.

"Gan fod yr ansicrwydd ynghylch 2013 wedi dod i ben bellach, gall y trafodaethau ganolbwyntio ar sut y bydd y digwyddiad yn datblygu yn y dyfodol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg a gwneud yn siŵr ei bod yn ffynnu o fewn ein cymunedau. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau dyfodol y Gymraeg a hoffwn atgoffa awdurdodau lleol o'u dyletswydd i wneud hynny o fewn eu cymunedau."

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, yr aelod cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant ar gyngor Caerdydd:

"Bu'r gwaith o gynnig cyllideb 2013-14 yn anodd iawn, ac roedd angen gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod ein gwasanaethau rheng flaen, megis ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, yn cael eu diogelu.

"Fodd bynnag, mae'r Gymraeg o hyd yn flaenoriaeth bwysig i'r Cyngor a Llywodraeth Cymru, a bydd y newyddion yn sicrhau bod Tafwyl yn parhau i fod yn ddigwyddiad ffyniannus a phoblogaidd yng Nghaerdydd."

'Cynsail peryglus'

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, wedi cwestiynu'r penderfyniad.

Dywedodd Mr Davies: "Rwy'n bryderus bod hyn yn gosod cynsail peryglus gyda'r Gweinidog yn ymyrryd ar ran Llywodraeth Cymru i ddewis a dethol rhai achosion i'w hachub.

"Mae Tafwyl yn ŵyl ddiwylliannol bwysig ond fe fyddwn i â diddordeb gwybod pam nad yw digwyddiadau pwysig eraill i'r iaith Gymraeg ddim yn haeddu'r un warchodaeth.

"Beth am Ganolfan Gelfyddydau'r Chapter, The Gate neu Theatr y Sherman yn wir?

"Mae'r sefydliadau yma, fel sawl un arall sy'n wynebu toriadau ar draws y ddinas, yn chwarae rôl amhrisiadwy yn cefnogi a gwarchod yr iaith Gymraeg.

"Ydy'r Gweinidog yn mynd i ddod i'w hachub nhw hefyd, ac os ddim sut y bydd yn egluro'r penderfyniad yna iddyn nhw?"

'Triniaeth arbennig'

Roedd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar yr Iaith Gymraeg, Aled Roberts, yn cytuno gan ddweud:

"Mae'r llywodraeth Lafur wedi gosod cynsail peryglus heddiw.

"Wrth gwrs rwy'n falch y bydd Tafwyl yn derbyn cyllid, mae'n ddigwyddiad pwysig, ond nid yw'n edrych yn dda pan mae llywodraeth Lafur yn camu i mewn i achub cyngor Llafur sy'n gwneud penderfyniadau amhoblogaidd.

"Beth am sefydliadau eraill, elusennau ac adnoddau mewn cynghorau sydd ddim o dan reolaeth Llafur? Fedran nhw ddisgwyl yr un driniaeth arbennig gan Lywodraeth Lafur Cymru?"

'Parhad yr iaith'

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd: "Mae Tafwyl wedi bod yn enghraifft o brosiect llwyddiannus sydd wedi tyfu drwy ewyllys pobl Caerdydd a 56 o sefydliadau a mudiadau sydd wedi ei chefnogi.

"Fel unrhyw ŵyl ddiwylliannol a chelfyddydol arall, mae parhad Tafwyl yn ddibynnol ar ddenu cymhorthdal o amryw o ffynonellau.

"Yn dilyn y newyddion am doriadau 100% gan Gyngor Caerdydd tuag at Tafwyl yr wythnos diwethaf rydym yn ddiolchgar erbyn heddiw fod Y Gweinidog Leighton Andrews wedi camu i mewn a chynnig yr £20,000 fydd yn sicrhau dyfodol yr ŵyl ar ei ffurf bresennol.

"Mae sicrhau cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg tu allan i oriau ysgol a gwaith yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol