'Rhywbeth i'r genhedlaeth hŷn' - Dim ond 20% o bobl ifanc wedi creu ewyllys

Mae Lora o'r Felinheli yn dweud nad yw creu ewyllys yn rhywbeth y mae hi a'i ffrindiau wedi ei drafod
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad newydd yn awgrymu bod gostyngiad yn nifer y bobl sydd wedi paratoi ewyllys - gyda chyfran y bobl ifanc yn arbennig o isel.
Yn ôl canlyniadau arolwg blynyddol y Gofrestr Ewyllysiau Cenedlaethol, dolen allanol, 37% o oedolion yn y DU sydd wedi paratoi ewyllys, sy'n sylweddol is na'r disgwyl gyda'r ffigwr hwnnw fel arfer o amgylch 50%.
Mae'r arolwg hefyd yn nodi mai un o bob pump, neu 20%, o bobl ifanc sydd rhwng 18 a 24 oed sydd wedi creu ewyllys.
Mae'r gymdeithas yn dweud bod diffyg ewyllys yn gallu arwain at ansicrwydd a straen di-angen i anwyliaid, gan annog pobl o bob oed i ystyried gweithredu ar y mater.
Ydy hi'n amser i chi wneud ewyllys?
- Cyhoeddwyd2 Medi 2021
Creu'r ewyllys i hawlio arian rhithwir
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020
Mae'r gwaith ymchwil yn nodi fod 79% o oedolion bellach yn hapus i drafod creu ewyllys sydd, meddai'r gymdeithas, yn awgrymu fod siarad am farwolaeth yn dod yn llai o dabŵ.
Ond mae bwlch i'w weld yn parhau rhwng y trafod a'r gweithredu.
'Ddim yn 'wbath sy'n cael ei drafod efo ffrindiau'
Mae Lora Lewis, sy'n 29 oed ac yn dod o'r Felinheli, yn dweud nad ydi hi erioed wedi ystyried bod angen iddi gael ewyllys.
"Dwi wastad 'di meddwl am ewyllys fel rhywbeth ar gyfer y genhedlaeth hŷn," meddai.
"Ond o ystyried y pethau sydd gan bobl, dwi'n talu morgais, ma' gen i dŷ ac eiddo - ac yn amlwg (mae angen ewyllys) er mwyn sicrhau fod y pethau yna'n mynd i rywun arall.
"Dwi bendant erioed wedi trafod gwneud ewyllys efo fy rhieni, hyd yn oed yn y broses o brynu tŷ fy hun. D'io ddim yn 'wbath sy'n cael ei drafod o fewn fy nghriw ffrindiau, er bo' ni gyd bron yn berchen ar dai.
"Mi ydan ni'n trafod pethau fel talu treth, talu biliau, ac ar ddiwedd y dydd tydi'r dogfennau yma wastad mor syml â hynny. "
"Mae'n bendant yn 'wbath dwi angen ei ystyried," ychwanegodd Lora.

Dyw creu ewyllys, ar y cyfan, ddim yn broses gymhleth, yn ôl y gyfreithwraig Elizabeth Saxby
Yn ôl y gyfreithwraig Elizabeth Saxby mae'r broses o gynllunio ewyllys yn gallu bod yn eithaf hawdd.
"Os chi jyst am wneud trefniadau ar gyfer arian ac efallai tŷ sydd 'da chi... dylai cyfreithiwr allu drafftio rhywbeth o fewn cwpl o ddyddiau yn dibynnu ar faint o waith sydd ganddyn nhw i wneud.
"Ond dyle fe ddim bod yn broses gymhleth."
Ailedrych bob pum mlynedd
Ychwanegodd Ms Saxby ei bod hi'n bwysig fod pobl yn drefnus ac yn gadael i bobl wybod ble mae dod o hyd i'r ewyllys pan fydd angen y ddogfen.
Mae'r adroddiad yn nodi nad ydy 29% o bobl sydd ag ewyllys wedi dweud lle mae hi yn cael ei chadw.
"Mae'n rhaid i chi fod yn objective iawn pan chi'n neud y penderfyniadau 'ma. Ond ar ôl chi wneud y trefniadau, chi'n gwybod bod chi wedi neud nhw ac fe all hwnna fynd i'r drawer gwaelod," meddai.
"Dwi'n credu bod e'n synhwyrol i ailedrych ar unrhyw ddogfen gyfreithiol, dwi wastad yn annog pobl i edrych ar hyn bob pum mlynedd achos ma' sefyllfaoedd yn gallu newid.
"Mae e gyd yn bersonol, i gyd yn gyfrinachol i chi a'r cyfreithiwr, ond mae'n synhwyrol dweud wrth y teulu neu ffrindiau lle mae'r ewyllys fel bod nhw ddim yn gorfod chwilio o gwmpas ar ôl i chi fynd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.