Ehangu gwasanaeth llifogydd i 4,000 cartref
- Cyhoeddwyd
Bydd mwy na 4,000 o gartrefi yng Nghymru yn gallu delio'n well ag effaith llifogydd ar ôl i wasanaeth rhybudd llifogydd gael ei ehangu, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd.
O ddydd Mawrth bydd pobl sy'n byw mewn 4,474 cartref yn gallu derbyn negeseuon rhybudd llifogydd yn rhad ac am ddim ar eu ffonau gan gynnwys ffonau symudol neu drwy e-bost.
Yn ôl yr asiantaeth bydd mwy na 2,200 cartref yng Ngogledd Cymru sydd dan fygythiad o lifogydd yn cael cynnig i ymuno â'r cynllun.
Bydd bron i 2,000 eiddo yn Ne Ddwyrain Cymru hefyd yn cael yr un cynnig.
Dywed yr asiantaeth fod y cartrefi hyn sydd dan fygythiad o lifogydd yng Nghroesyceiliog yng Nghwmbrân, Pontnewynydd ym Mhont-y-pŵl, Ynyshir a'r Bont-faen.
Mae gan 375 o gartrefi yn Llangennech, Sir Gâr hefyd yr hawl i gofrestri ar-lein.
Dywedodd Jeremy Parr, ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Mae nifer y bobl sy'n derbyn ein rhybuddion llifogydd wedi dyblu mewn dwy flynedd ac mae mwy na 105,500 o bobl yn awr wedi eu cofrestri ar gyfer y gwasanaeth.
"Gallai derbyn neges cyn llifogydd posib sicrhau fod gan bobl yr amser i gymryd camau i warchod eu cartrefi a lleihau effaith y llifogydd arnynt."