Milwr yn cael ei saethu'n farw
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest fod milwr wedi ei ladd yn Sir Benfro ar ôl cael ei saethu tra bod milwyr eraill yn hyfforddi.
Cafodd Ranger Michael Maguire 21 oed ei daro yn ei ben yn safle hyfforddi'r fyddin yn Castell Martin, yn ne Sir Benfro.
Clywodd y cwest yng Nghaerdydd nad oedd yn gwisgo helmet a bod o tua chilomedr o'r fan lle'r oedd milwyr yn hyfforddi.
Dywedodd Michael Gleeson, meddyg gyda'r fyddin, ei fod mewn ambiwlans pan gafodd alwad fod rhywun wedi anafu.
Hofrennydd
"Pan gyrhaeddais roedd rhywun wedi gosod rhwymyn ar ben y milwr
"Fe geisiais i gael ei galon i ddechrau curo eto am tua chwarter awr i ugain munud...roedd o'n anymwybodol."
Clywodd y cwest fod Ranger Maguire yn aelod o gatrawd y Gwyddelod Brenhinol.
Ymunodd â'r fyddion ym Mai 2010 a bu'n gwasanaethu yn Afghanistan.
Roedd y milwyr yn saethu at dargedau pan ddigwyddodd y ddamwain.
Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ond ofer bu ymdrechion meddygon i'w achub.
Mae'r cwest yn parhau.