Her Chelsea i'r Gerddi Botaneg
- Cyhoeddwyd
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ymddangos am y tro cyntaf yn un o sioeau flodau mwyaf blaenllaw'r byd.
'Brysiwch Wella' fydd thema'r ardd yn Sioe Flodau Frenhinol Chelsea, fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ym Mai 2013.
Bydd yr ardd yn canolbwyntio ar blanhigion meddyginiaethol sy'n gallu gwella ein hiechyd mewn ffyrdd hynafol, traddodiadol a modern.
Mae'r ardd yn cael ei chynllunio gan ddwy arddwraig a enillodd fedal aur am eu gardd Cerdyn Post o Gymru yn sioe Chelsea yn 2011.
Er bod Kati Crome a Maggie Hughes o Sir Buckingham, mae gan y ddwy gysylltiad teuluol â Gorllewin Cymru ac yn edrych ymlaen at gynllunio arddangosiad cyntaf y Gerddi Botaneg yn Chelsea.
Eglurodd Kati Crome, "Rydym am greu'r teimlad bod gerddi yn gallu gwneud i chi deimlo'n well, ym mhob ffordd - naill ai trwy deimlad o hapusrwydd o weld rhyw flodyn anhygoel neu o ran daioni meddygol bron holl blanhigion yr ardd.
"Un enghraifft yw rhosmari. Mae ei socian mewn dŵr a'i rhwbio i mewn i groen eich pen wedi bod yn beth wych i'w wneud ers yr hen amser.
Coeden Aspirin
"Mae yna rhai hen rysetiau o blanhigion i gael gwared â chreaduriaid o'ch perfedd nad ydym yn eu defnyddio heddiw, wrth gwrs."
Yng nghornel cefn yr ardd bydd yr helygen wen, y goeden a roddodd y cyffur Aspirin i'r byd.
Mae Kati hefyd yn chwilio am hen ddywediadau meddygol Cymraeg a Saesneg i ysgrifennu ar byst yn yr ardd.
"Bydd hefyd blanhigion dŵr yn yr ardd, gan fod dŵr sy'n rhedeg yn rhyddhau ïonau negatif i'r amgylchfyd sy'n dda iawn i chi."
Bydd y cynllunwyr yn symud yr ardd i Chelsea ar Fai 10 cyn i'r sioe agor i'r cyhoedd ar Fai 21.
Cafodd yr ardd ei chynllunio ar y cyd gan Maggie Hughes a Kati Crome, Gardd Fotaneg Genedlaethol a noddwyr sy'n cynnwys Penn Pharma, Partneriaeth Twristiaeth De Cymru a Tyfu'r Dyfodol.